logo

Cyngor Cymuned Llandwrog

yn gwasanaethu pentrefi Y Fron, Carmel, Y Groeslon, Llandwrog a Dinas Dinlle
Rheolwr Gweinyddol a Chyllid y Cyngor - David Roberts
Bryn Meurig, Carmel, Caernarfon, Gwynedd LL54 7DS
Ffôn: (01286) 881920/ 07796024288
gwybodaeth@cyngorcymunedllandwrog.cymru
Facebook
Twitter

Hawl Tramwyo - Llwybrau Cyhoeddus


Llwybrau Cymuned Llandwrog

Mae gan y Cyngor Cymuned gyfrifoldeb am rwydwaith o lwybrau cyhoeddus o lethrau Mynydd Grug i arfordir Morfa Dinlle. Amcangyfrifir bod hyd y llwybrau yn 32 milltir. Rhestrir yr holl lwybrau isod ac mae darluniau ar rhai ohonynt. Noder fod yna lwybrau nad sydd wedi eu rhestru ar y mapiau terfynol . Mae'n bwysig nodi os nad yw llwybr cyhoeddus wedi ei gofrestru ar y map efallai fod hawl tramwy yn bodoli arnynt beth bynnag . Ar yr un modd nid yw llwybr yn rhoi hawl tramwy os yw yn ymddangos ar y map ond yn hytrach yn profi ei fod yn llwybr cyhoeddus ac yn ei warchod fel llwybr yn gyfreithiol. Cliciwch ar unrhyw un o'r 80 o lwybrau i gael manylion pellach ar gyfer pob llwybr ynghyd â chyfarwyddiadau o'i lleoliad. Oes stori gennych ynglŷn â’r llwybrau yma, neu hen luniau efallai? Rhowch wybod i ni, cysylltwch. Gwerthfawrogwn eich sylwadau.

Noder fod y Cyngor Cymuned yn archwilio'r llwybrau gan ei bod yn ymddangos fod rhai ohonynt wedi eu cau. Wrth gwrs bydd y Cyngor yn gofyn i Gyngor Gwynedd am esboniad o'r rhai hynny sydd ar gau a byddwn yn disgwyl i'r Awdurdod wneud popeth posib i ail agor y llwybrau.

Rheolau syml i'w dilyn wrth dramwyo llwybrau

  • Gwisgwch esgidiau cryf neu esgidiau cerdded a dillad addas bob amser.
  • Os ydych yn cerdded ar eich ben eich hun gadewch i rywun wybod lle rydych yn mynd ac yn fras pryd y byddwch yn dychwelyd.
  • Gwyliwch y tywydd cyn cychwyn ar deithiau cerdded mynyddig.
  • Ewch â bwyd a diod gyda chi bob amser os ydych yn mynd ar daith gerdded hir.
  • Os ydych yn cerdded ar lwybrau mynyddig, sicrhewch fod gennych gwmpawd, chwiban, pecyn goroesi, pryd bwyd, torsh a ffôn symudol.
  • Dilynwch y Côd Cefn gwlad bob amser
  • Sicrhewch fod camfeydd a giatiau yn cael eu gadael fel ac yr oeddynt.
  • Parchwch y llwybrau ac eiddo eraill
  • Cadwch gŵn ar dennyn

Trwy gytundeb gyda Chyngor Gwynedd mae llwybrau y gymuned wedi eu categoreiddio i'r bandiau canlynol

 

Categori 1

Llwybrau sydd yn hwyluso symudiadau pobl. Bydd i'r rhain ddefnydd sylweddol neu byddent yn ffurfio cysylltiadau â threfi, pentrefi neu rhwng cyfleusterau trafnidiaeth gyhoeddus, meysydd parcio ac atyniadau.

 

Categori 2

Llwybrau poblogaidd a ddefnyddir yn bennaf er pleser gan gynnwys llwybrau o amgylch cymunedau, llwybrau cerdded cylchol neu fynediad i draethau.

 

Categori 3

Llwybrau, er na chant eu defnyddio mor aml, sydd yn ffurfio cysylltiadau arwyddocaol rhwng y llwybrau yng nghategoriau 1 a 2 neu rhwng cymunedau.

 

Categori 4

Llwybrau, a dim ond defnydd achlysurol , ond sydd yn parhau i ffurfio rhan o'r rhwydwaith lawn, effeithiol. Gall y rhain gynnwys cysylltiadau posib rhwng cymunedau ble nad oes llawer i annog cerdded.

 

Categori 5

Llwybrau heb unrhyw fudd na photensial amlwg, a phle mae yna lwybrau mewn categori uwch yn arwain i'r un man.

Defnyddir y llwybrau cyhoeddus gan ymwelwyr o bell a chan trigolion lleol. Mae ein llwybrau wedi eu creu ers blynyddoedd maith ac mae trigolion y gymuned wedi tramwyo arnynt ar hyd y blynyddoedd. Bellach mae mwyafrif llwybrau’r gymuned wedi eu cofrestru ar y map terfynol (definitive map). Mae copiau o'r mapiau terfynnol i'w gweld yn Swyddfeydd y Cyngor ac mae'n bosib prynu copiau. I'r dyfodol, byddwn yn dangos mapiau terfynnol Cymuned Llandwrog ar y wefan hon. Mae'n hanfodol bwysig fod ein llwybrau yn cael eu hamddiffyn. Os y gwelwch fod llwybr wedi ei gau, fod gordyfiant, fod camfeydd neu adwyon wedi eu rhwystro rhowch wybod i'r Cyngor Cymuned. Cliciwch yma i gysylltu â’r Cyngor Cymuned

Mae gan Gyngor Cymuned Llandwrog yr hawl i ymgymryd â dyletswyddau yr Awdurdod Priffyrdd (sef Cyngor Gwynedd) ar lwybrau cyhoeddus sydd o fewn ffiniau'r gymuned. Prif ddyletswydd y Cyngor Cymuned yw i ymgymryd â gwaith cynnal a chadw er mwyn cadw y llwybrau mewn cyflwr da ac ar agor i'r cyhoedd sef torri glaswellt, torri mieri a gordyfiant a gwaith draenio syml.

 

Cynnal a Chadw Llwybrau Cyhoeddus

 

Arwyddion

Cyngor Gwynedd - dyletswydd statudol ar yr Awdurdod Priffyrdd. Ymgymerir ar gwaith yma gan gontractwyr ar ran yr Adran Priffyrdd.

 

Arwyneb

Yn gyffredinol Cyngor Gwynedd (sef yr Awdurdod Priffyrdd) yn gymesur ar defnydd cyhoeddus. Ni fyddai'r Awdurdod Priffyrdd er engraifft yn derbyn cyfrifoldeb llawn am arwyneb llwybr troed ar hyd ffordd breifat.

 

Arwyddo ar hyd y Llwybrau

Cyngor Gwynedd (Awdurdod Priffyrdd) - trwy gytundeb perchennog y tir.

 

Giatiau a chamfeydd

Y Perchennog Tir - ond mae'n rhaid i Gyngor Gwynedd (Awdurdod Priffyrdd) dalu o leiaf 25% at gost cynnal a chadw'r cyfleusterau a ddarperir yn unig ar gyfer defnydd y cyhoedd. Yng Ngwynedd y lleiafswm cyfraniad yw bod y deunyddiau gofynnol yn cael eu darparu i'r perchennog y tir eu codi.

 

Pontydd

Cyngor Gwynedd (Awdurdod Priffyrdd) - yn gymesur a'r defnydd cyhoeddus (fel arwynebau) Bydd dyletswyddau sydd yn gysylltiedig â hyn fel arfer yn cael eu cario allan gan gontractwyr ar ran yr Awdurdod Priffyrdd.

 

Cloddiau

Y perchennog tir.

 

Ffensiau

Y perchennog tir, oni bai eu bod wedi codi gan yr awdurdod priffyrdd oherwydd rhesymau diogelwch.

 

Waliau

Y perchennog tir, oni bai eu bod wedi eu hadeiladu i gefnogi'r llwybr ac yn yr achos yr Awdurdod Priffyrdd fod yn gyfrifol

 

Draeniau

Yn dibynnu ar yr amgylchiadau - Y perchennog tir neu'r Awdurdod Priffyrdd

 

Cnydau (ac eithrio glaswellt)

Y perchennog tir - i sicrhau nad oes unrhyw rwystr ar y llwybr

Adolygwyd Rhagfyr 2008 - Categori Llwybrau

Yn 2008 cafwyd gwybod gan Gyngor Gwynedd na fyddai Cynghorau Cymuned yn derbyn grant flynyddol ar gyfer cynnal pob llwybr cyhoeddus

Gofynnwyd i'r Cyngor roi pob llwybr mewn categori rhwng 1 a 5. Diffiniad y categoriau yw 1, Defnydd helaeth rhan tramwyo i 5 dim defnydd neu lwybr wedi cau.

Gweler o'r daenlen y categori a roddwyd i bob llwybr a'r drefn sydd gan y Cyngor i gynnal y llwybrau hynny. Nid yw cyngor Gwynedd yn cynnig grant i gynnal llwybrau categori 3, 5 a 5.

Y Llwybrau

Footpath 2

Llwybr 2

Llwybr Fferm Morfa Mawr i Parc Newydd

Footpath 3

Llwybr 3

Fferm Morfa Mawr i Dinas Dinlle

Footpath 4

Llwybr 4

Llandwrog - Fferm Glanrafon i Warren Farm

Footpath 5

Llwybr 5

Llandwrog - Fferm Glan yr Afon i Lôn Cefn Emrys a Rhyd Y Meirch - Cat 2

Footpath 6

Llwybr 6

Llwybr Pont Cae Doctor i Pont Pant Yr Hedyn - Tyn Lôn - Cat 2

Footpath 7

Llwybr 7

Llwybr Lôn Ty'n Mwd - Lôn Cefn Emrys - Cat 2

Footpath 8

Llwybr 8

Llwybr Rheithordy - Pant Emrys - Cat 2

Footpath 9

Llwybr 9

Pentref Llandwrog i Lôn Ty'n Mwd, Dinas Dinlle - Cat 2

Footpath 10

Llwybr 10

Llwybr Henrhyd - Cat 2

Footpath 11

Llwybr 11

Llwybr Glyn Iwrch, Bwlan - WEDI CAU - Cat 2

Footpath 12

Llwybr 12

Llwybr Cae Llywarch (Penrallt Cottages i Ty'n Lôn) - Cat 4

Footpath 13

Llwybr 13

Llwybr Llwyngwalch - WEDI CAU - Cat 5

Footpath 14

Llwyb 14

Llwybr Plas Mawr a Llwynpiod - Cat 2

Footpath 15

Llwybr 15

Llwybr Lôn Llwyngwalch i Glan Carrog - Cat 2

Footpath 17

Llwybr 17

Llwybr Collfryn, Ty'n Lôn - Cat 2

Footpath 18

Llwybr 18

Llwybr Ty'n Lon wedi cau - Cat 2

Footpath 19

Llwybr 19

Llwybr Gilwern, Y Groeslon - Cat 2

Footpath 20

Llwybr 20

Llwybr o Lôn Bryn'Rodyn i Cefn Coed - Cat 1

Footpath 21

Llwybr 21

Llwbyr Ffatri Tryfan i Gilwern Uchaf - Cat 1

Footpath 30

Llwybr 30

Llwybr Stesion Tryfan i Tyddyn Isaf , Y Bryn

Footpath 31

Llwybr 31

Llwybr Braich Tri Gwr Mawr i Bryngwyn Cat 1

Footpath 32

Llwybr 32

Llwybr Cae Haidd - WEDI CAU - Cat 3

Footpath 33

Llwybr 33

Llwybr o Chwarel Moel Tryfan i Lôn y Buarth, Y Fron - Cat 2

Footpath 34

Llwybr 34

Llwybr Dafarn Dywyrch i Tryfan-Bryngwyn - WEDI CAU - Cat 3

Footpath 35

Llwybr 35

Llwybr Glyn Afon, Y Bryn Cat 2

Footpath 36

Llwybr 36

Llwybr Uwch Llifon, Bryn i Carmel Cat 2

Footpath 37

Llwybr 37

Llwybr Ffynnon Dŵr Oer, Carmel i Bryn Cat 2

Footpath 38

Llwybr 38

Llwybr Braich Tri Gwr Mawr i Ael-y-Bryn i Hafotywen, Carmel Cat 1

Footpath 39

Llwybr 39

Llwybr Clwt Foty i Glynmeibion Mawr, Carmel Cat 2

Footapth 40

Llwybr 40

Llwybr Nant Yr Hafod, Carmel i Groeslon Cat 2

Footpath 41

Llwybr 41

Llwybr Glynmeibion Uchaf Cat 1

Footpath 42

Llwybr 42

Llwybr Lôn Carmel -Y Fron i Tanybwlch Cat 2

Footpath 43

Llwybr 43

Llwybr Cilgwyn Lodge a Dolifan, Carmel

Footpath 44

Llwybr 44

Llwybr Tomen Tai Sibi, Carmel Cat 3

Footpath 45

Llwybr 45

Llwybr Tŷ Newydd Cim i Lôn Y Fron-Rhosgadfan - Cat 2

Footpath 46

Llwybr 46

Llwybr Pont Y Reil i Chwarel Alexandra Cat 2

Footpath 47

Llwybr 47

Llwybr Pwll Y Braich, Y Fron Cat 2

Footpath 48

Llwybr 48

Llwybr Capel C.M Cesarea - Pwll y Braich Cat 1

Footpath 49

Llwybr 49

Llwybr Nantlle i Cesarea Cat 2

Footpath 50

Llwybr 50

Llwybr Eglwys Sant Tomos-Cae Cyd / Carmel (Bod Alwyn) Cat 4

Footpath 51

Llwybr 51

Llwybr Point Dafarn-Dudur i Cilgwyn Cat 3

Footpath 52

Llwybr 52

Llwybr Cilgwyn i Mynydd y Cilgwyn ( Llwybr Tŷ Mawr) Cat 1

Footpath 53

Llwybr 53

Llwybr Pen y Fuches i Penygroes - Cat 1

Footpath 54

Llwybr 54

Llwybr Fferm Cae Forgan, Carmel - Cat 1

Footpath 55

Llwybr 55

Llwybr Capel Cilgwyn - Chwarel Cilgwyn - Cat 2

Footpath 56

Llwybr 56

Llwybr Tyddyn Meinsier - Frondeg , Y Groeslon - Cat 2

Footpath 57

Llwbyr 57

Llwybr Llain Ffynnon, Groeslon Cat 2

Footpath 57 A

Llwbyr 57 A

Llwybr Carmel - Chwareli Cilgwyn a PenyrOrsedd ac i NantlleCat 3

Footpath 58

Llwybr 58

Llwybr Llyn Grafog - Tai'r Cowt, Y Groeslon Cat 2

Footpath 58A

Llwybr 58A

Llwybr Cesarea - Chwarel Cilgwyn a Penyrorsedd Cat 2

Footpath 59

Llwybr 59

Llwybr Cefnen - Uwchlawrhos, Groeslon Cat 4

Footpath 59A

Llwybr 59A

Llwybr Cesarea i Chwarel Penyrorsedd Cat 3

Footpath 60

Llwybr 60

Llwybr Penygroes - Uwchlawrhos, Groeslon Cat 1

Footpath 61

Llwybr 61

Llwybr Sea View (Gwelfor) i Penrallt , Groeslon Cat 4

Footpath 62

Llwybr 62

Llwybr Grugan Ddu, Groeslon Cat 1

Footpath 62A

Llwybr 62A

Llwybr Victoria Terrace, Nantlle i BlaenY Garth, Cesarea

Footpath 63

Llwybr 63

Llwybr Cae Cregin, Groeslon Cat 1

Footpath 64

Llwybr 64

Llwybr Tyddyn Dafydd, Groeslon i Ty Isaf Rhos, GroeslonCat 3

Footpath 65

Llwybr 65

Llwybr Cae Iago, Groeslon Cat 1

Footpath 66

Llwybr 66

Llwybr Garreg Fawr, Groeslon Cat 1

Footpath 67

Llwybr 67

Llwybr Felin Forgan, Groeslon Cat 1

Footpath 68

Llwybr 68

Llwybr Llwyn Y Gwalch Cat 1

Footpath 69

Llwybr 69

Llwybr Dolnenan - Caerffridd i Maes Tryfan Cat 1

Footpath 70

Llwybr 70

Llwybr Trem Y Werydd - Cefn Tryfan i Tryfan Mawr Cat 2

Footpath 71

Llwybr 71

Llwybr Penygroes i Pen y Fuches, Carmel

Footpath 73

Llwybr 73

Llwybr Ael Y Bryn - Glyn Meibion Mawr, Carmel

Footpath 74

Llwybr 74

Llwybr Trallwyn Terrace i Pen Bwlch Bach, Carmel

Footpath 75

Llwybr 75

Llwybr Pwll y Braich i Capel Bwlch y Llyn , Cesarea Cat 3

Footpath 76

Llwybr 76

Llwybr Cil Fodan Uchaf i Glan yr Afon Fawr, Y Bryn

Footpath 77

Llwybr 77

Llwybr Lôn Meillionydd i Ffordd Pen Y Garn, Cesarea Cat

Footpath 78

Llwybr 78

Llwybr Lôn Meillionydd i Tai Bron Y Foel Cat 2

Footpath 79

Llwybr 79

Llwybr Lôn Meillionydd i Hen Safle Gapel C.M Cesarea Cat 1

Footpath 80

Llwybr 80

Llwybr Llys Arfon , Carmel , Tyddyn Difyr i Cim. Cat 2

Footpath 81

Llwybr 81

Llwybr Gilwern Isaf - Cat 2

Footpath 82

Llwybr 82

Llwybr Fron Dirion i Capel Carmel

Footpath 84

Llwybr 84

Llwybr Capel Carmel i Pen Carmel

Footpath 85

Llwybr 85

Llwybr Y Fron i Eifion House a Fron i Glangors Cat 2

Footpath 86

Llwybr 86

Llwybr Warren Farm, Morfa Dinlle Cat 2

Footpath 87

Llwybr 87

Llwybr Glan yr Afon i Blythe Farm, Morfa Dinas

© 2023 Cyngor Cymuned Llandwrog | Gwefan gan Delwedd

Datganiad Preifatrwydd