Llwybr Ceffyl yn cychwyn o llwybr 154 oddifewn ffîn Cymuned Llanwnda. Hefyd yn hen ffordd gyrru gwartheg (cattle driftway).
Dilyn llwybr 154 , ac i'r hen inclein a ddaw allan o chwarel Moel Tryfan. Croesi'r lôn gyhoeddus Y Fron-Rhosgadfan i lawr Lôn Reil am gyfeiriad Capel y Bryn, ond troi i'r chwith tua 300 llath o'r priffordd, nes cyrraedd Bryn Bugeiliaid. Ymlaen a chi rwan ar hyd lôn drol am gyfeiriad Glanrafon Fawr a Penbonc nes cyrraedd lôn Bwlch y Llyn-Carmel, sef Lôn Buarth. Mae'r llwybr yma yn cyfarfod Llwybr 45 wrth Glanrafon Fawr
Arferid ei ddefnyddio yn helaeth gan chwarelwyr o adral Rhosgadfan a fyddai'n gweithio yn chwarel y Cilgwyn a Penyrorsedd.
Lon Drol, rhif 33 ar y map
Isod , pen y daith , wrth Lôn y Buarth.
Isod, llwybr trwy gardd Glanrafon Fawr
© 2023 Cyngor Cymuned Llandwrog | Gwefan gan Delwedd