Cychwyn oddeutu 50 llath i gyfeiriad ogledd-orllewinol o Fferm Glanrafon oddi fewn ffin Cymuned Llandwrog
Croesi Afon Carrog ger y rhyd (ford) am oddeutu 30 llath ac fe arferai fod yno pont droed, bychain , pren dros yr afon rhyw ychydig o lathenni i'r gogledd. Mae'r pont droed wedi diflannu ers blynyddoedd maith, ac yn anffodus ni fu iddo gael ei adnewyddu.
Rhêd y llwybr tua'r gogledd-orllewin gyda'r arglawdd sydd yn rhedeg yn paralel hefo Afon Carrog. Estynir yr arglawdd cyn belled a Fferm Belan ac mae'r llwybr yn creu y ffîn rhwng Cynghorau Cymuned Llandwrog a Llanwnda. Mae rhan o'r llwybr, felly, yn ffinio hefo Llanwnda.
Defnyddir y llwybr yn helaeth yn ystod misoedd yr Hâf.
Rhif 4 ar y map
© 2023 Cyngor Cymuned Llandwrog | Gwefan gan Delwedd