Llwybr troed yn cychwyn wrth dir comin ger Stesion Bryngwyn, ar draws tir garw a trwy caeau, heibio Uwch Llifon nes cyrraedd lôn Pisgah wrth Fferm Hafoty Wen ar gorsaf drydan.
Mae'r llwybr yn fforchio i gyfeiriad ddwyreiniol yn ymylu a ffrŵd bychan nes cyrraedd lôn Carmel-Bryn ger Bod Eilian a Blaen Fferam.
Arferid ei ddefnyddio fel 'short cut' gan triglion Bryngwyn a Bryn i Carmel.
Llwybr Troed, rhif 36 ar y map
Wrth Clwt Foty, Hafoty Wen i'r chwith. Arferai Stesion Bryngwyn wrth 'Gerallt' sydd yn y llun
Giat fochyn yn arwain i Uwch Llifon i'r chwith neu i Blaen Fferam yn syth ymlaen..
Mae'r llwybr yn diflannu mae'n debyg oherwydd diffyg tramwyo. Giat fochyn yn arwain at Afon Llifon..
'Ynys Y Weirglodd' i'r chwith...
Giat fochyn wrth Ynys Y Weirglodd..
'Tyddyn Isaf' yn y canol. Stesion Bryngwyn ar safle 'Gerallt' sydd i'r chwith i'r llun.
© 2024 Cyngor Cymuned Llandwrog | Gwefan gan Delwedd