Llwybr Troed / Footpath yn cychwyn tua 220 llath i'r gogledd o mynwentydd Carmel a Pisgah yn Clwt Foty. I'r chwith or lôn yn Clwt Foty (yn gwynebu'r môr i gyfeiriad y gorllewin) gweler giat galfanedig ac wrth ochor honno mae giat mochyn. Rhêd y llwybr i lawr ar draws caeau i iard fferm Glynmeibion Mawr. Cyrhaeddir at ffynnon syddd dŷ cefn i'r iard fferm ac yma gweler, i gyfeiriad y gogledd, camfa sydd yn arwain at Llwybr 73 i Nant Yr Hafod. Rhêd llwybr 39 fodd bynnag i gyfeiriad y dê nes cyrraedd lôn Carmel-Groeslon wrth Berwyn ger Dorlan Goch.
Arefrid ei ddefnyddio'n helaeth yn y blynyddoedd a fu gan chwarelwyr yn gweithio yn Cilgwyn a Penyrorsedd.
Llwybr troed , rhif 39 ar y map
Cychwyn yng Nglwt Foty, giat mochyn yn arwain i Glynmeibion Mawr
Iard fferm Glynmeibion
Yr hen ffynnon
Berwyn, wrth lôn Carmel-Groeslon
© 2023 Cyngor Cymuned Llandwrog | Gwefan gan Delwedd