Llwybr Troed - Footpath - Llwybr sydd yn torri i ffwrdd o Llwybr 56 ydi hon. Yn Fferm Tyddyn Meinser mae'r llwybr yn troi i gyfeiriad y gorllewin , heibio Tyn y Weirglodd a Bwthyn Bach ac yn ymuno a Lôn Llain Fynnon. Mae pont pren a dwy gamfa wrth Bwthyn Bach a gardd Penrhos . Mae'r llwybr yn fforchio i ddau gyfeiriad yma ar yr ail gamfa, i'r gogledd i Penrhos ac i Lon Llainffynnon neu i'r de am Grafog sef Llwybr 58 .
Llwybr poblogaidd iawn.Un o'r ffefryna ac yn hynod o brydferth trwy llwyni ger Penrhos.
Llwybr troed , rhif 57 ar y map
Wrth fynd i lawr i gyfeiriad y gorllewin o Tyddyn Meinsier cyrhahddir at Bwthyn Bach, Tyn y Weirglodd Groeslon , pen pella Lon Llainffynon. Gweler y giat mochyn sydd ar dalcen Bwthyn Bach.
Bwthyn Bach i gyfeiriad Carmel
Arwydd Llwybr 58 dros y Pont Pren i'r Grafog , neu Llwybr 57 i Dyddyn Meinsier
Camfa yn arwain at gardd 'Penrhos'
Gardd 'Penrhos', neu 'Penrhosgarnedd fel y'i enwyd yn wreiddiol
Mr Palmer, sydd wedi byw yn 'Penrhos' ers 30 mlynedd. Mae'r llwybr yn ymylu gydatr pwll yng ngardd' Penrhos'. Ei wraig, Ann, adeiladodd y waliau cerrig sydd yn amgylchu'r ardd.
Giat mochyn, yn arwain i' Penrhos' yn unig ac ynôol i Lôn Llain-Ffynnon
Llwybr 58 yn arwain i LLyn Grafog ac yn diweddu yn lôn Groeslon-Penygroes. Beth am banad yn y caffi ?
© 2024 Cyngor Cymuned Llandwrog | Gwefan gan Delwedd