Llwybr Troed - Footpath Llwybr yn cychwyn oddeutu 20 llath i'r islaw a mynediad Eglwys Sant Tomos, Y Groeslon ac sydd uwchlaw Tyddyn Cefnen, Y Groeslon. Rhêd y llwybr i gyfeiriad y dê, trwy tir garw gan ymylu a llwyni nes cyrraedd buarth Fferm Uwchlawrhos. Ymunir a Llwybr 51 hebio'r gwaith llechi sydd yn y iard.
Mae'r llwybr yma yn cysylltu a dau llwybr arall ond nid yw'r llwybrau yma ar y 'definitive map'. Y cyntaf Llwybr 91. Wedi cyrraedd at y tir agored (cyn anelu at y llwyni sydd yn arwain at Fferm Uwchlawrhos) mae llwybr yn arwain at giat fochyn i gyfeiriad de-ddwyreiniol nes cyrraedd hen waith dwr Penllwyn ac yn ymuno hefo Llwybr 50 yma.Yr ail yw Llwybr 90 yn cychwyn o Bryn Neidr i gyfeiriad y gorllewin nes ymuno a croesi y llwynr yma ac ymlaen i Tyddyn Meinsier yn ymuno felly hefo Llwybr 56.
Llwybr hynod o boblogaidd yn yr hen ddyddiau.
Llwybr Troed , rhif 59 ar y map
Lleoliad yr hen Eglwys Sant Tomos - sut yn y byd y cyrhaeddwyd at sefyllfa fel hyn? Beth fyddai'r henefwyr yn ei feddwl tybed?
Yr hen Eglwys o'r giat
Man cychwyn, arwydd i'r chwith (gorllewin) yn arwain i'r lôn ger Cefnen, arwydd i'r chwith yn arwain i'r dwyrain Bryn Neidr ac ymlaen i Carmel
Ymlaen i gyfeiriad y dê...
Trwy'r rhedyn ac ymylu gyda'r llwyni i gyfeiriad y de..
nes cyrraedd giat fochyn..
..croesi'r hen ffrwd..
..nes cyrraedd giat a camfa yn arwain at..
Fferm Uwchlawrhos
Mr Lith Jones, perchennog Fferm Uwchlawrhos.
© 2023 Cyngor Cymuned Llandwrog | Gwefan gan Delwedd