Llwybr Troed / Footpath Llwybr yn cychwyn o'r prif ffordd Carmel-Groeslon ger ffermdy Gwelfor (neu Sea View fel y'i gelwir ar rhai mapiau sydd tua 50 llath is-law a Cae Cyd) ac yn croesi caeau mewn cyfeririad de-ddwyreiniol nes cyrraedd giât mochyn ac wedyn camfa wrth Bryn Difyr sydd ar y lôn eilradd rhwng Penfforddelen ac Eglwys Sant Tomos, Groeslon. Nid oes arwydd wrth Gwelfor yn dynodi Llwybr yn anffodus.
Defnyddiwyd yn helaeth flynyddoedd yn ól fel llwybr i'r Eglwys.
Llwybr troed, rhif 61 ar y map
Giat ger 'Gwelfor' ar y lôn Carmel-Groeslon ger 'Cae-Cyd'. 'Sea View' oedd enw'r tyddyn flynyddoedd yn ôl.
Giat mochyn wrth Penrallt, ger y lôn eilradd rhwng Penfforddelen a'r hen Eglwys Sant Tomos. Noder mai'r gwaith dwr ar ar y prif-ffordd Carmel-Groeslon sydd yn y cefndir.
Camfa wrth y lôn ger 'Bryn Difyr' a 'Penrallt'.
© 2024 Cyngor Cymuned Llandwrog | Gwefan gan Delwedd