Cychwyn o Lôn Llwyngwalch gyferbyn a mynedfa Cefn Eithin ar draws caeau nes cyrraedd lu a Fferm Caegarw cyn troi i gyfeiriad dwyreiniol tu ôl i Plas Ffynnon nes cyrraedd adfail Ysgubor Fawr . Yma mae'r llwybr yn fforchio i ddau gyfeiriad-
Yn gyntaf i gyfeiriad ddwyreiniol ac yn rhedeg yn paralel gyda Lôn Eifion mewn cyfeiriad deheuol am 200 medr ar hyd mynedfa lôn newydd cyn troi eto i gyfeiriad dwyreiniol a chroesi y trac beiciau at giat farch (bridlegate) cyn derbyn mynediad i'r A487 ffordd osgoi Llanllyfni. Ail gychwynir ar yr ochr arall i'r ffordd osgoi, yn ei flaen i gyfeiriad dwyreiniol tra'n ymuno a hen ffordd yr A487 rhwng Bodnant a Glyn Carrog.
Yr ail gyfeiriad yw fod y llwybr yn rhedeg i gyfeiriad gogleddol am 200 medr cyn troi i gyfeiriad orllewinol a rhedeg yn paralel gyda Afon Carrog am 100 medr tra'n ymuno a'r A499 wrth gamfa carreg tros y ffordd i Cae Boncaw.
Llwybr 15 ar y map
© 2023 Cyngor Cymuned Llandwrog | Gwefan gan Delwedd