Llwbyr- Footpath yn cychwyn o'r tir comin yng nghanol Y Fron , i fynu trac heibio Gwyndy ac yn arwain i fynu am hen chwarel a elwir nawr yn Pwll Y Braich. Mae'r llwybr yn beryglus wrth ymylu a'r pwll am Plas Pen Braich. Mae'r llwybr yn gwasanaethu 6 bwthyn ac 4 tyddyn oddi amgylch Moel Tryfan. Mae'r llwybr wedi ei arwyddo'n glir ac yn arwain i Betws Garmon neu'r Waunfawr .
Llwybr Troed , rhif 47 ar y map
Trac yn arwain at Pwll y Braich...
Llwybr yn ymylu gyda Pwll y Braich sydd i'r chwith....
Isod , Pwll y Braich sydd wedi bod yn boblogaidd gan pysgotwyr lleol . Noder fod y Pwll yn hynod beryglus ac fod hen bysgod blewog yn byw yno. Oes pysgod ar ôl wedi i Gwyrfai ei wagio?
Yn arwain at grid ac yna tir agored.Rhed y llwybr i 'r dde i gyfeiriad hen chwarel Blaen Fferam...
I gyfeiriad hen chwareli Blaen Ffferam...
Arwyddion. Llyn Ffynohnnau sydd wrth droed Mynydd Grug...
Yr olygfa tuag at Dyffryn Nantlle. Llyn Nantlle sydd yn y cefndir.....
Moel Eilian...
Yn arwain at hen weithfeydd dwr.
Gwaith dwr - ffin Cyngor Cymuned Llandwrog a Cyngor Cymuned Llanwnda....
© 2023 Cyngor Cymuned Llandwrog | Gwefan gan Delwedd