Llwybr Troed - Footpath Dywed Cyngor Gwynedd fod na anghydfod gyda'r llwybr hon. Mae'n debyg nad yw'r lwybr wedi ei gofredtru'n gywir ar y Map Terfynnol ga y dangosir lwybr sydd ond 50 medr o hyd, yn cychwyn o rhwng Pont Cae Doctor Bach a Mynedfa Fferm Cefn Emrys . Deallir fod Cyngor Gwynedd yn ymchwilio i'r mater.
Fodd bynnag fe ddylai'r llwybr gychwyn o Fferm Glan yr Afon (sydd ar y ffin rhwng Cymuned Llandwrog a Chymuned Llanwnda), gan groesi caeau i Tyddyn Botwm ac wrth Tyddyn Botwm fforchio i ddau gyfeiriad. Y cyntaf i gyfeiriad y dé am Fferm Cefn Emrys yn ymuno a Llwybr 7 . Yr ail i gyfeiriad gogledd heibio Dol Padarn a Cae Doctor Bach nes cyrraedd lôn fawr Caernarfon-Llandwrog ger Cae Doctor Bach . Mae yna gamfa yn arwain o'r llwybr i'r lôn. Ni ddefnyddir y llwybr fawr bellach,ond flynyddoedd yn ôl 'roedd y llwybr yn boblogaidd iawn
Llwybr Troed , Rhif 5 ar y map
© 2023 Cyngor Cymuned Llandwrog | Gwefan gan Delwedd