Translation coming soon...
Mae gan y Cyngor Cymuned gyfrifoldeb am rwydwaith o lwybrau cyhoeddus o lethrau Mynydd Grug i arfordir Morfa Dinlle. Amgangyfrifir fod hyd y llwybrau yn 32 milltir. Rhestrir yr holl lwybrau isod ac mae darluniau ar rhai ohonynt. Noder fod yna lwybrau nad sydd wedi eu rhestru ar y mapiau terfynol . Mae'n bwysig nodi os nad yw llwybr cyhoeddus wedi ei gofrestru ar y map efallai fod hawl tramwy yn bodoli arnynt beth bynnag . Ar yr un modd nid yw llwybr yn rhoi hawl tramwy os yw yn ymddangos ar y map ond yn hytrach yn profi ei fod yn lwybr cyhoeddus ac yn ei warchod fel llwybr yn gyfreithiol. Cliciwch ar unrhyw un o'r 80 o lwybrau i gael manylion pellach ar gyfer pob llwybr ynghyd a chyfarwyddiadau o'i lleoliad. Oes stori gennych ynglyn a'r llwybrau yma, neu hen luniau efallai? Rhowch wybod i ni, cysylltwch. Gwerthfawrogwn eich sylwadau.
Noder fod y Cyngor Cymuned yn archwilio'r llwybrau gan ei fod yn ymddangos fod rhai ohonynt wedi eu cau. Wrth gwrs bydd y Cyngor yn gofyn i Cyngor Gwynedd am esboniad o'r rhai hynny sydd ar gau ac byddwn yn disgwyl i'r Awdurdod wneud popeth posib i ail agor y llwybrau.
Rheolau syml i'w dilyn wrth dramwyo llwybrau
Trwy gytundeb gyda Chyngor Gwynedd mae llwybrau y gymuned wedi eu categoreiddio i'r bandiau canlynol
Categori 1
Llwybrau sydd yn hwyluso symudiadau pobl. Bydd i'r rhain ddefnydd sylweddol neu byddent yn ffurfio cysylltiadau â threfi, pentrefi neu rhwng cyfleusterau trafnidiaeth gyhoeddus, meysydd parcio ac atyniadau.
Categori 2
Llwybrau poblogaidd a ddefnyddir yn bennaf er pleser gan gynnwys llwybrau o amgylch cymunedau, llwybrau cerdded cylchol neu fynediad i draethau.
Categori 3
Llwybrau, er na chant eu defnyddio mor aml, sydd yn ffurfio cysylltiadau arwyddocaol rhwng y llwybrau yng nghategoriau 1 a 2 neu rhwng cymunedau.
Categori 4
Llwybrau, a dim ond defnydd achlysurol , ond sydd yn parhau i ffurfio rhan o'r rhwydwaith lawn, effeithiol. Gall y rhain gynnwys cysylltiadau posib rhwng cymunedau ble nad oes llawer i annog cerdded.
Categori 5
Llwybrau heb unrhyw fudd na photensial amlwg, a phle mae yna lwybrau mewn categori uwch yn arwain i'r un man.
Defnyddir y llwybrau cyhoeddus gan ymwelwyr o bell a chan trigolion lleol. Mae ein llwybrau wedi eu creu ers blynyddoedd maith ac mae trigolion y gymuned wedi tramwyo arnynt ar hyd y blynyddoedd. Bellach mae mwyafrif llwybrau’r gymuned wedi eu cofrestru ar y map terfynol (definitive map). Mae copiau o'r mapiau terfynnol i'w gweld yn Swyddfeydd y Cyngor ac mae'n bosib prynu copiau. I'r dyfodol, byddwn yn dangos mapiau terfynnol Cymuned Llandwrog ar y wefan hon. Mae'n hanfodol bwysig fod ein llwybrau yn cael eu hamddiffyn. Os y gwelwch fod llwybr wedi ei gau, fod gordyfiant, fod camfeydd neu adwyon wedi eu rhwystro rhowch wybod i'r Cyngor Cymuned. Cliciwch yma i gysylltu â’r Cyngor Cymuned
Mae gan Gyngor Cymuned Llandwrog yr hawl i ymgymryd â dyletswyddau yr Awdurdod Priffyrdd (sef Cyngor Gwynedd) ar lwybrau cyhoeddus sydd o fewn ffiniau'r gymuned. Prif ddyletswydd y Cyngor Cymuned yw i ymgymryd â gwaith cynnal a chadw er mwyn cadw y llwybrau mewn cyflwr da ac ar agor i'r cyhoedd sef torri glaswellt, torri mieri a gordyfiant a gwaith draenio syml.
Cynnal a Chadw Llwybrau Cyhoeddus
Arwyddion
Cyngor Gwynedd - dyletswydd statudol ar yr Awdurdod Priffyrdd. Ymgymerir ar gwaith yma gan gontractwyr ar ran yr Adran Priffyrdd.
Arwyneb
Yn gyffredinol Cyngor Gwynedd (sef yr Awdurdod Priffyrdd) yn gymesur ar defnydd cyhoeddus. Ni fyddai'r Awdurdod Priffyrdd er engraifft yn derbyn cyfrifoldeb llawn am arwyneb llwybr troed ar hyd ffordd breifat.
Arwyddo ar hyd y Llwybrau
Cyngor Gwynedd (Awdurdod Priffyrdd) - trwy gytundeb perchennog y tir.
Giatiau a chamfeydd
Y Perchennog Tir - ond mae'n rhaid i Gyngor Gwynedd (Awdurdod Priffyrdd) dalu o leiaf 25% at gost cynnal a chadw'r cyfleusterau a ddarperir yn unig ar gyfer defnydd y cyhoedd. Yng Ngwynedd y lleiafswm cyfraniad yw bod y deunyddiau gofynnol yn cael eu darparu i'r perchennog y tir eu codi.
Pontydd
Cyngor Gwynedd (Awdurdod Priffyrdd) - yn gymesur a'r defnydd cyhoeddus (fel arwynebau) Bydd dyletswyddau sydd yn gysylltiedig â hyn fel arfer yn cael eu cario allan gan gontractwyr ar ran yr Awdurdod Priffyrdd.
Cloddiau
Y perchennog tir.
Ffensiau
Y perchennog tir, oni bai eu bod wedi codi gan yr awdurdod priffyrdd oherwydd rhesymau diogelwch.
Waliau
Y perchennog tir, oni bai eu bod wedi eu hadeiladu i gefnogi'r llwybr ac yn yr achos yr Awdurdod Priffyrdd fod yn gyfrifol
Draeniau
Yn dibynnu ar yr amgylchiadau - Y perchennog tir neu'r Awdurdod Priffyrdd
Cnydau (ac eithrio glaswellt)
Y perchennog tir - i sicrhau nad oes unrhyw rwystr ar y llwybr
Adolygwyd Rhagfyr 2008 - Categori Llwybrau
Yn 2008 cafwyd gwybod gan Gyngor Gwynedd na fyddai Cynghorau Cymuned yn derbyn grant flynyddol ar gyfer cynnal pob llwybr cyhoeddus
Gofynnwyd i'r Cyngor roi pob llwybr mewn categori rhwng 1 a 5. Diffiniad y categoriau yw 1, Defnydd helaeth rhan tramwyo i 5 dim defnydd neu lwybr wedi cau.
Gweler o'r daenlen y categori a roddwyd i bob llwybr a'r drefn sydd gan y Cyngor i gynnal y llwybrau hynny. Nid yw cyngor Gwynedd yn cynnig grant i gynnal llwybrau categori 3, 5 a 5.
© 2024 Llandwrog Community Council | Website by Delwedd