Llwybr troed yn cychwyn o lôn eilradd Tanbwlch i gyfeiriad y gogledd ac heibio Ty Newydd Cim, ymlaen i gyfeiriad ddwyreiniol am Penbonc. Mae'r llwybr yn croesi Llwybr 33 wrth Glanrafon Fawr ac yn rhedeg yn ei flaen i gyfeiriad dwyreiniol heibio talcen Ty'n Pistyll nes cyrraedd lôn Fron-Rhosgadfan ger Ty Hwnt i'r Bwlch. Mae Llwybr 85 yn cychwyn gyferbyn ar lôn.
Llywbr Troed, rhif 45 ar y map
Cychwyn yn lôn Tanybwlch...
I gyfeiriad Ty Newydd Cim.
Nes cyrraedd camfa..
Ac yna giat. Rhêd y llwybr at giat fochyn sydd ar drwas y gors..
Sydd yn arwain at Glanrfon Fawr. Penbonc sydd yn y cefndir.
I gyfeiriad Cim
Giat newydd wedi ei osod yma.
Isod, cyfeiriad y llwybr oddiwrth Glanrafon Fawr tuag at Ty'n Pistyll i prif ffordd Y Fron-Rhosgadfan. Noder nad oes llwybr i'r dde o'r giat mochyn, er fod hoel llwybr yno.
Isod , pen y daith ger Ty Hwnt i'r Bwlch ar y ffordd Y Fron-Rhosgadfan.
© 2023 Cyngor Cymuned Llandwrog | Gwefan gan Delwedd