logo

Cyngor Cymuned Llandwrog

yn gwasanaethu pentrefi Y Fron, Carmel, Y Groeslon, Llandwrog a Dinas Dinlle
Rheolwr Gweinyddol a Chyllid y Cyngor - David Roberts
Bryn Meurig, Carmel, Caernarfon, Gwynedd LL54 7DS
Ffôn: (01286) 881920/ 07796024288
gwybodaeth@cyngorcymunedllandwrog.cymru
Facebook
Twitter

Llwybr 19


Llwybr Gilwern - Pant Dolydd - Ffatri Tryfan

Cychwyn wrth gamfa a leolir ychydig latheni o Pant Dolydd , sydd oddi fewn i Gymuned Llanwnda - Llwybr 143). Rhaid croesi tri cae yn groeslinol (diagonally) i dyddyn bychan a enwir fel Gilwern Isaf, yna ymlaen i dyddyn bychan Cefn Coed ac ymuno a llwybr (2) oddi ar lôn Rhostryfan-Bryn'Rodyn. Rhêd y llwybr i gyfeiriad deheuol dros ffrwd bychan (slab llechen yn ei chroesi yma) ac ymlaen , eto tros ffrwd bychan , eto hefo slab llechen yn ei chroesi, ac yn ymylu hefo tyddyn Hafod Ifan i'r gorllewin, yna yn dilyn gwrych nes cyrraedd camfa gyda giat wiced (wicket gate) ar ei ben, ac ymlaen i lôn Brynrodyn-Rhostryfan ger Ffatri Tryfan , a enwir nawr fel Llys Y Delyn.

Mae'r llwybr yma yn ymuno gyda Llwybr 81Llwybr 21 a Llwybr 20

Mae pump camfa carreg ar hyd y llwybr.

Cyngor Cymuned sydd yn ei chynnal ac mae'r tirfeddianwyr yn cydnabod fod yna lwybr cyhoeddus yn rhedeg trwy y tir.

Llwybr 19 ar y map

Cychwyn o Ffatri Tryfan,Llys y Delyn i'r chwith....

Cychwyn o Ffatri Tryfan,Llys y Delyn i'r chwith....

Nes cyrraedd adwy. 'Cefn Coed' sydd i'w weld yma.

Nes cyrraedd adwy. 'Cefn Coed' sydd i'w weld yma.

Yr olygfa am Hafod Ifan....

Yr olygfa am Hafod Ifan....

Gilwern Isaf, rhed y llwybr i lawr i gyfeiriad orllewinol...

Gilwern Isaf, rhed y llwybr i lawr i gyfeiriad orllewinol...

Camfa...

Camfa...

Yn arwain at giat fochyn....

Yn arwain at giat fochyn....

Yn arwain at dir agored...nid yw rhediad y llwybr i Pant Dolydd yn amlwg.

Yn arwain at dir agored...nid yw rhediad y llwybr i Pant Dolydd yn amlwg.

Llwybrau Cyhoeddus

© 2024 Cyngor Cymuned Llandwrog | Gwefan gan Delwedd

Datganiad Preifatrwydd