logo

Cyngor Cymuned Llandwrog

yn gwasanaethu pentrefi Y Fron, Carmel, Y Groeslon, Llandwrog a Dinas Dinlle
Rheolwr Gweinyddol a Chyllid y Cyngor - David Roberts
Bryn Meurig, Carmel, Caernarfon, Gwynedd LL54 7DS
Ffôn: (01286) 881920/ 07796024288
gwybodaeth@cyngorcymunedllandwrog.cymru
Facebook
Twitter

Llwybr 38


Llwybr Braich Tri-gwr Mawr i Hafoty Wen, Carmel 

Lôn Drol / Bridleway Estyniad o Llwybr 30 ydi'r llwybr yma yn arwain o Braich Tri Gwr Mawr i gyfeiriad de ddwyreinol heibio Ael-y-Bryn nes cyrraedd pont llechen sydd yn croesi'r Afon Llifon. Arweinir y llwybr trwy dwy giat nes cyrraedd Hafoty Wen. Mae'r llwybr yn ymuno gyda Llwybr 73 a Llwybr 40. Llwybr 73 yn arwain at Glynmeibion Mawr ac i Berwyn a Llwybr 40 yn arwain at Hafod Boeth.

Arferid ei ddefnyddio yn helaeth flynyddoedd yn ôl hen chwarelwyr a fyddai'n trigo yn ardaloedd Llanwnda, Rhos Isaf, Rhostryfan a fyddai'n cerdded i chwareli Cilgwyn a Penyrorsedd.

Llwybr Troed, rhif 38 ar y map

Llwybrau Cyhoeddus

© 2023 Cyngor Cymuned Llandwrog | Gwefan gan Delwedd

Datganiad Preifatrwydd