Cyngor Cymuned Llandwrog logo

Cyngor Cymuned Llandwrog

yn gwasanaethu pentrefi Y Fron, Carmel, Y Groeslon, Llandwrog a Dinas Dinlle
Rheolwr Gweinyddol a Chyllid y Cyngor - David Roberts
Bryn Meurig, Carmel, Caernarfon, Gwynedd LL54 7DS
Ffôn: (01286) 881920/ 07796024288
gwybodaeth@cyngorcymunedllandwrog.cymru
Facebook
Twitter

Amdanom


Yr Ardal

O’r môr i’r mynydd - dyna’r amrywiaeth ardal mae Cyngor Cymuned Llandwrog yn ei gwasanaethu, ac mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn ein logo.

Yr ardal dan sylw yw'r arfordir o Fort Belan i Ddinas Dinlle ac, i gyfeiriad y dwyrain, i gopa Mynydd Mawr (neu Mynydd Grug fel y'i gelwir). Mae ffiniau'r gymuned yn cynnwys rhan o’r Parc Cenedlaethol ynghyd â’r pentrefi canlynol - Dinas Dinlle, Llandwrog, Tŷ'n Lôn, Bethesda Bach, Y Groeslon, rhan o'r Dolydd, Maestryfan, Carmel, Cilgwyn, Y Bryn, Y Fron a'r Cwm. Rhaid hefyd cofio fod Parc Glynllifon yng nghanol y gymuned ac oddi fewn ein cymuned mae Maes Awyr Caernarfon yn Ninas Dinlle sydd yn gwneud ein cymuned yn un unigryw dros ben.

 

Gwaith y Cyngor Cymuned

Dywed Deddf Llywodraeth Leol 1972 fod pob rhan o Gymru mewn cymdeithas neu gymuned. Yn Lloegr “Cyngor Plwyf” yw’r ymadrodd o hyd ond yng Nghymru “Cyngor Cymuned” yw’r ymadrodd cyfreithiol a chyfansodiadol am yr unedau hyn o weinyddiad mewn llywodraeth leol.

Haen isaf llywodraeth leol yw’r Cyngor Cymuned ac sydd agosaf i'r cyhoedd o ran ymateb i ofynion lleol. Mae gan y Cyngor nifer o hawliau a dyletswyddau statudol. Ymysg y rhain yw gofalu am gadw dros 30milltir o lwybrau cyhoeddus yn agored i’r cyhoedd a hefyd fel Awdurdod Claddu yn gofalu am dair mynwent o fewn ffiniau'r gymuned - sef mynwent Llandwrog, mynwent Bryn'rodyn (Y Groeslon) a mynwent Carmel. Ymhellach, mae gan y Cyngor yr hawl i roi sylwadau ar geisiadau cynllunio, hawl i wario megis ar lochesi bws, goleuadau ochr ffordd a biniau ysbwriel. Ceir hefyd cyfleoedd i arwain neu gymryd rhan mewn prosiectau sy’n lleol ac o fudd i’r gymuned.

 

Beth yw strwythur y Cyngor?

Dangosir ar y dudalen nesaf restr o’r Cynghorwyr sydd yn eich cynrychioli. Yn gryno ceir cynrychiolaeth o’r 4 ward o fewn y gymuned, sef Y Fron, Carmel, Y Groeslon a Llandwrog/Dinas Dinlle. Mae cyfanswm o 14 Cynghorydd ar y cyfansoddiad, sydd heb fod yn gynrychiolwyr o unrhyw blaid wleidyddol a etholir bob 4 mlynedd. Cyflogir Rheolwr/ Swyddog Ariannol i ddelio â’r holl drefnu cyfarfodydd a llunio agenda i ddelio gyda’r cofnodion a`r materion ariannol a gweinyddol o gario allan gwaith y Cyngor.

 

Sut mae’r Cyngor yn gweithio?

Bydd unrhyw waith gan y Cyngor yn digwydd ar ôl penderfyniadau mewn cyfarfodydd agored. Telir am unrhyw waith gydag arian cyhoeddus a ddaw i’r Cyngor drwy godi praesept sydd yn elfen o Dreth y Cyngor a osodir gan Gyngor Gwynedd.

 

Beth yw praesept y Cyngor?

Yn 2020-21 mae praesept y Cyngor yn £64,000. Defnyddir y praesept i ariannu ystod eang o waith, er engraifft i gynnal a chadw mynwentydd, cadw toiledau cyhoeddus ar agor, cynnal llochesi bws a cadw llwybrau cyhoeddus ar agor. Cyflogir un gweithiwr rhan amser, sef Rheolwr Gweinyddol a Cyllid. Mae'r praesept, yn 2020/21, yn £61.92 (ar eiddo Band D) ac yn cynrychioli 3.5% o fil y Dreth Cyngor.

 

All y cyhoedd ddod i’r cyfarfodydd?

Ar bob cyfrif. Mae croeso i chi ddod i’n cyfarfodydd fel gwrandawyr yn unig - a byddem yn annog hyn. Nid oes hawl i’r cyhoedd fod yn rhan o drafodaethau'r Cyngor a ni roddir hawl iddynt leisio barn yn ystod y cyfarfod - fodd bynnag gall amgylchiadau arbennig ganiatáu'r cadeirydd i alw am gyfraniad oddi wrth y cyhoedd ac iddynt wneud datganiad. Byddwn yn cyfarfod unwaith y mis, ac eithrio mis Awst, yn arferol ar y trydydd Llun o’r mis. Cynhelir y cyfarfodydd mewn gwahanol leoliadau oddi fewn y gymuned: Neuadd Bentref Carmel, Neuadd Bentref Y Groeslon, Ysgol Bronyfoel, Sied y Gwylwyr Glannau, Llandwrog neu Ysgol Gynradd Llandwrog.

 

Cyfarfodydd Blynyddol

Mae gan y Cyngor rwymedigaeth gyfreithiol trwy Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 i gynnal cyfarfod blynyddol a hynny ym mis Mai. Y Cyngor sydd yn penderfynu ar y dyddiad. Eitem gyntaf y rhaglen fydd ethol Cadeirydd y Cyngor Cymuned am y deuddeg mis nesaf a chyflwyno datganiad o dderbyn swydd.

 

Ethol

I fod yn gymwys i swydd cynghorydd, rhaid i berson fod heb eu hanghymwyso dan y gyfraith, yn ddeiliad Prydeinig, ac wedi cyrraedd 21 oed.

Rhaid i’r ymgeisydd hefyd fod yn

  • etholwr llywodraeth leol
  • fod drwy gydol deuddeg mis cyn y dyddiad ethol yn meddiannu fel tenant neu’n berchen ar ryw dir neu adeiladau yn y cylch neu’n ddinesydd hŷn
  • fod a’i brif, neu unig le gweithio, yn y deuddeg mis cyn ethol, yn y cylch
  • fod yn byw drwy gydol y deuddeg mis hwnnw yn y cylch, neu o fewn tair milltir i’r cylch

 

Ymholiadau

Cysylltwch â Rheolwr y Cyngor os oes unrhyw ymholiad ynglŷn â gweithred neu reolau’r Cyngor.

© 2023 Cyngor Cymuned Llandwrog | Gwefan gan Delwedd

Datganiad Preifatrwydd