Lon Drol - Cart Road . Llwybr sydd yn cychwyn o'r prif-ffordd Groeslon-Penygroes wrth Point Dafarn Dudur (sef ffin Cymuned Llanllyfni a Chymuned Llandwrog) ac sydd yn gorffen yn Tomen Llechi Bryn Trallwyn yn Cilgwyn ydi'r llwybr hon, ond mae llwybrau cyfagos yn arwain i Talysarn a Penygroes). Ffordd mynediad i Fferm y Garth ac i Fferm Uwchlawrhos yw cychwyniad y llwybr. Rhêd y llwybr trwy iard Fferm Uwchlawrhos ac ymlaen i gyfeiriad y dwyrain nes cyrraedd giat fferm wrth yr hen bwmp dŵr hanner ffordd rhwng Penllwyn a Fferm Uwchlawrhos. Yma mae'r llwybr yn dilyn cae eithaf serth nes cyrraedd giat ger Penllwyn ar y lôn sydd yn arwain i Cae Forgan (gweler Llwybr 54 yn arwain at Clydfan, Carmel) Rhêd y llwybr yn 'i flaen eto i gyfeiriad y dwyrain nes cyrraedd giat ger Penfuchas (gweler Llwybr 71). Eto, rhêd y llwybr i fynu nes cyrraedd lôn Carmel-Penygroes. Rhaid croesi'r lôn ac agor giat pren sydd yn arwain i Mynydd Bryn Trallwyn. Rhed y llwybr i gyfeiriad de-ddwyreiniol ar drwas y mynydd nes cyrraedd lôn Cilgwyn wrth Tomen Bryn Tarllwyn.
Wrth fynediad Fferm Y Garth ymunir a Llwybr 56 i Tyddyn Meinsier. Mae Fferm Uwchlawrhos yn cysylltu rhwydwaith o lwybrau sef Llwybr 59 i gyfeiriad y gogledd ac sydd yn arwain at hen Eglwys Sant Tomos, a llwybr Llwybr 60 i gyfeiriad y dê sydd yn arwain at Gwyndy, Bro Llwyndu , Penygroes. Llwybr a arferai fod yn hynod o boblogaidd gan trigolion lleol, yn arbennig chwarelwyr o ardal Llandwrog a fyddai'n cerdded i'r chwareli ac i Aelodau'r Eglwys yn Sant Tomos.
Llwybr Troed a Lôn Drol mewn mannau / Footpath and Cart Road in sections - rhif 51 ar map
I gyfeiriad Fferm Uwchlawrhos...llwybr 60 yn cychwyn i'r dde wrth y gwaith llechi
Mr Lith Jones, Fferm Uwchlawrhos.
Heibio'r buarth i gyfeiriad Penllwyn.
Llyn yng nghefn Fferm Uwchlawrhos.
Llwybr yn arwain at hên waith dwr Penllwyn. Rhêd y llwybr i fynu i gyfeiriad y defaid...
I gyfeiriad Fferm Uwchlawrhos.....Llwybr 59 yn ymuno yma wrth waelod y cae.
Yr olygfa i gyferiad y gorllewin wrth Penllwyn...Fferm Uwchlawrhos sydd i'w weld i'r chwith
Mr John Ednyfed Jones, Bryn Trallwyn, wrth ei waith yn bugeilio yn Penfuchas
Penfuchas sydd i'r chwith, Cae Forgan i'r dde a Penllwyn wrth waelod y lôn
Croesi Allt Injan (prif-ffordd Carmel-Penygroes), trwy giat fochyn yn arwain at Mynydd Bryn Trallwyn
Y llwybr yn arwain trwy'r eithin i Cilgwyn
Tomen Bryn Trallwyn yn prysur diflannu...
Pen y daith, lôn Cilgwyn ,wrth hen Domen Bryn Trallwyn
© 2023 Cyngor Cymuned Llandwrog | Gwefan gan Delwedd