Llwybr Troed - Footpath. Cychwyn wrth Pen y Fuchas o Llwybr 51 ac ymlaen wrth groesi prif ffordd Carmel-Penygroes at giat ia law a Bryn Trallwyn. Ymlaen i'r mynydd i gyfeiriad chwith am y tomen lechi nes cyrraedd giat wrth lôn Cilgwyn-Penygroes. Rhêd y llwybr yn ei flaen wrth groesi'r ffordd ac i Talysarn yn croesi llwybrau 13 a 5 Cymuned Llanllyfni wrth Bryn Melyn. Llwybr 13 yn mynd heibio Bryn Madoc, Weirglodd Newydd, Bryn Llyfnwy ac ymlaen i Talysarn. Llwybr 5 yn mynd i ddau gyfeiriad un i'r gorllewin nes cyrraedd Tyddyn Difyr a lon Carmel-Penygroes ar llall i'r dwyrain heibio Coed Madog i Talysarn.
Llwybrau a fyddai'n boblogaidd iawn yn y dyddiau a fu , yn cael eu tramwyo gan chwarelwyr yn bennaf.
Llwybr troed , rhif 53 ar y map
© 2023 Cyngor Cymuned Llandwrog | Gwefan gan Delwedd