Llwybr Troed - Footpath , Un o'r llwybrau mwyaf poblogaidd yn ein cymuned. Cychwyn cychwyn o iard fferm Hafodty Wen, Carmel , i gyfeiriad orllewinol. Cyrhaeddir at giat fochyn tua 100 medr o Hafoty Wen. Yma mae rhwydwaith o lwybrau yn ymuno a'i gilydd. Llwybr 73 i Glynmeibion Mawr, Llwybr 38 yn arwain heibio Ael-y-Bryn a thrwy buarth Braich Tri Gwr Mawr. Rhêd y llwybr yma, fodd bynnag, i gyfeiriad gorllewinol yn ymylu a'r Afon Llifon nes cyrraedd camfa wrth iard fferm Hafod Boeth.
Gellir dilyn y lwybr gyda'r afon mewn mannau.
Llwybr hynod o boblogaidd a defnyddir gan bysgotwyr lleol. Gwyliwch am y moch daear, y 'sgwarnogod a'r llwynogod.
Llwybr troed , rhif 40 ar y map
Hafotywen , Carmel ...Clwt Foty ydi enw'r llecyn tir yma
Hafoty Wen...
Llwybr yn rhedeg rhwng y ddwy giat a welir...Ael-y-Bryn sydd i'r dde.
Trwy'r giat...ac ymlaen i lawr y caeau..Llwybr 73 i'r chwith yma.
Camfa i gyfeiriad Hafoty Wen...
Camfa ar y llwybr wrth yr Afon Llifon
Ymlaen at Hafod Boeth..
Giat fochyn yn arwain at Hafod Boeth..
Hafod Boeth....mae'r camfa i'r dde
Arwydd wrth Hafod Boeth i Hafotywen, Carmel
Afon Llifon ger Beudy Isaf
© 2025 Cyngor Cymuned Llandwrog | Gwefan gan Delwedd