Llwybr Troed - Footpath . Llwybr yn cychwyn tua 80 llath i'r gorllewin o Eglwys Sant Twrog, Llandwrog wrth Tai Maes y Llan i gyfeiriad y gogledd , yn croesi camfa i'r dde , ac ymlaen trwy cae tuag at iard Fferm Gwern Afalau. Rhêd ymlaen trwy iard y fferm nes cyrraedd giat mochyn ger hen gytiau môch. I'r gogledd o'r giat hwn rhaid cerdded trwy cae i gyfeiriad y gogledd nes cyrraedd dau gamfa yn y llwyni,(sydd mewn cyflwr gwael gyda mierir yn gordyfu arnynt). Wedi croesi'r ail gamfa cyrheiddir gors gyda ffoes twfn yn rhedeg trwy ei chanol. Mae'r llwybr yn fforchio i ddau gyferirad yma. Y cyntaf yn arwain i gyfeiriad Fferm Cefn Emrys gan ymuno a Llwybr 7 .Yn anffodus mae'r llwybr wedi diflannu ac nid oes agoriad amlwg, na camfa, i arwain tuag at Fferm Cefn Emrys. Dangosir y map yn eglur fod y llwybr yn bodoli ond nid yw ei rediad yn amlwg. Mae'r tir yn wlyb iawn yma ac yn amhosib i'w dramwyo heb par o Wellingtons . Fodd bynnag mae'r llwybr sydd yn arwain i gyfeiriad Ty'n Mwd a Dinas Dinlle yn bodoli er fod ei chyfeiriad yn aneglur mewn mannau. Wedi croesi'r ail gamfa rhaid dilyn y wal i'r chwith . Rhêd y llwybr ymlaen nes cyrraedd cyfres o fwlchau , nes o'r diwedd cyrraedd pont pren (sydd gyda giat pob pen iddi wedi i'w clymu gan gortyn) yn croesi'r Hen Gamlas , neu'r Afon Foryd. Rhêd ymlaen nes cyrraedd giat galfanedig yn ymuno a Llwybr 7 oddeutu 100 lath o Maes Twrog. Rhaid dringo'r giat.
Llwybr yr arferid ei ddefnyddio yn helaeth flynyddoedd yn ôl .
Llwybr rhif 9 ar y map
Cychwyn y daith o pentref Llandwrog wrth mynedfa Bedd Gwenan ger Tai Maes Y Llan...
Camfa , mewn cyflwr gwael, sydd yn arwain at Fferm Gwern Afalau...
Giat mochyn, wrth hen gwt môch, yn iard Fferm Gwern Afalau yn arwain at ddau gamfa...
Wedi croesi'r camfeydd, cyrhaeddir at gors. Tir Lord Niwbwrch sydd yma. Fferm Cefn Emrys a welir yn y cefndir.Yn anffodus o'r pwynt yma nid oes posib gwybod rhediad y llwybr tuag at y Fferm. Bydd y Cyngor Cymuned yn gofyn i Gyngor Gwynedd rhoi arwyddion i nodi cwrs y llwybr i Fferm Cefn Emrys. Mae'r llwybr yn fforchio i'r chwith yma, fodd bynnag, ac yn rhedeg i lawr i gyfeiriad y gorllewin nes ymuno a Llwybr 7, i traeth Dinas Dinlle.
Un o'r bwlchau rhaid mynd heibio.....
Giat arall.....rhaid ei ddringo.....
Rhediad y llwybr... yn wlyb iawn....
Pont yn croesi'r Gamlas , neu'r Afon Foryd. Rhed y llwybr i fynu gyda'r llwyni am Gwern Afalau. Cyrhaeddir at y bont o giât galfanedig sydd wedi ei leoli ar llwybr Ty'n Mwd (Llwybr 7). Rhaid dringo'r giat yn anffodus.
Y giât sydd yn arwain at Llwybr 7 o'r Pont Pren
© 2023 Cyngor Cymuned Llandwrog | Gwefan gan Delwedd