Llwybr Troed / Footpath Cychwyn wrth Penrallt Cottages ar y ffordd rhwng Groeslon a Llandwrog i gyfeiriad gogleddol trwy ddwy giat a dros ddau gamfa (newydd) tuag at Fferm Cae Llywarch Mawr, yna dilyn lôn fferm nes cyrraedd ffordd fawr Caernarfon-Pwllheli gyferbyn a'r cyffordd i Ty'n Lôn.
Arferai'r llwybr redeg am 200 llath o Fferm Cae Llywarch Mawr ac ymlaen at berthlys (copse) bychan ar ffordd fawr Caernarfon-Pwllheli. Arferai fod camfa yma a pont troed bychan ym mhen pella y perthlys. Yn anffodus nid oes modd dod ar draws y rhan yma o'r llwybr ac rhaid felly dilyn y trac lawr i'r prif-ffordd. Wrth groesi'r ffordd fawr mae'r llwybr yn croesi cae nes cyrraedd Mount Hazel, Ty'n Lôn.
Gwair yw arwyneb mwayfrif o'r llwybr. Arferid ei ddefnyddio yn helaeth gan y cyhoedd.
Mae'r cyhoedd wedi mwynhau cerdded y llwybr hwn ers blynyddoedd maith . Defnyddiwyd y llwybr gan chwarelwyr o Bethesda Bach a Ty'n Lôn.
Llwybr rhif 12 ar y map
Cychwyn ger Penrallt Cottages, Groeslon
Cyrhaeiddir at y giatiau...
Trwy'r ail giat nes cyrraedd...
Penrallt Cottages sydd yn y cefn...
Camfa arall,Cae Llywarcg Mawr sydd i'r dde...
Cyrheiddir at y giat yma weth y beudy...
Ty Fferm Cae Llywarch Mawr
Ty'n Lon i'r golwg...
Y llwybr yn cyrraedd prif-ffordd Caernarfon-Pwllheli. Noder fod y llwybr gwreiddiol yn cyrraedd y lôn tua 100 llath i'r chwith ac yn croesi'r ffordd i Ty'n Lôn.
Camfa yn Ty'n Lôn yn arwain i'r ffordd fawr.
© 2025 Cyngor Cymuned Llandwrog | Gwefan gan Delwedd