logo

Cyngor Cymuned Llandwrog

yn gwasanaethu pentrefi Y Fron, Carmel, Y Groeslon, Llandwrog a Dinas Dinlle
Rheolwr Gweinyddol a Chyllid y Cyngor - David Roberts
Bryn Meurig, Carmel, Caernarfon, Gwynedd LL54 7DS
Ffôn: (01286) 881920/ 07796024288
gwybodaeth@cyngorcymunedllandwrog.cymru
Facebook
Twitter

Llwybr 34


Llwybr Dafarn Dywarch i Lôn Tryfan-Bryngwyn

Cychwyn o hen gamfa , sydd bellach yn adfail, o giat tua 50 llath i'r gogledd o Bryn Gwynfa. Yn anffodus mae'n ymddangos fod y llwybr yma wedi cau er ei fod wedi ei gofrestru ar y 'difinitive map'.O'r gamfa rhaid anelu i gyferiad gogledd-ddwyreiniol nes cyrraedd adfeilion Cae Haidd Mawr. Wrth yr adfeilion rhaifd newid cyfeiriad i'r dwyrain nes cyrraedd olion hen gamfa .Rhaid dringo ffens nes cyrraedd Gors Dafarn.

Mae'n ymddangos mai'r unig bwrpas, neu'r prif bwrpas, o'r llwybr hwn oedd i alluogi perchnogion Cae Haidd Mawr yn unig i deithio oddiwrth y fferm.Mae'r llwybr yn croesi Llwybr 32 yn adfeilion Cae Haidd Mawr

Llwybr Troed , rhif 34 ar y map.

Man cychwyn. Olion hen gamfa i'r chwith o'r giat.

Man cychwyn. Olion hen gamfa i'r chwith o'r giat.

Yn ôl y map rhed y llwybr i gyfeiriad 'Cae Haidd Mawr' sydd wrth Gors Dafarn, Bryn

Yn ôl y map rhed y llwybr i gyfeiriad 'Cae Haidd Mawr' sydd wrth Gors Dafarn, Bryn

Y gamfa i'r dde i'r giat wrth y postyn lechen. 'Bryn Gwynfa' sydd i'w weld a 'Bryngwyn Cottage' i'r dde

Y gamfa i'r dde i'r giat wrth y postyn lechen. 'Bryn Gwynfa' sydd i'w weld a 'Bryngwyn Cottage' i'r dde

Olion yr hen gamfa

Olion yr hen gamfa

Yr olyfa at Bryn Gwynfa..Nid oes llwybr amlwg yma....

Yr olyfa at Bryn Gwynfa..Nid oes llwybr amlwg yma....

Adfeilion Cae Haidd Mawr...

Adfeilion Cae Haidd Mawr...

Adfeilion Cae Haidd Mawr..rhed y llwybr i 'r chwith o'r adfelion am Gors Dafarn

Adfeilion Cae Haidd Mawr..rhed y llwybr i 'r chwith o'r adfelion am Gors Dafarn

Cyrhaeiddir at olion hen gamfa efallai. Yn ôl y map dyma rgediad y llwybr i Dafarn..

Cyrhaeiddir at olion hen gamfa efallai. Yn ôl y map dyma rgediad y llwybr i Dafarn..

Yn ymylu hefo Llynnoedd Dafarn ...

Yn ymylu hefo Llynnoedd Dafarn ...

'Dafarn Dywyrch' sydd yn y canol...

'Dafarn Dywyrch' sydd yn y canol...

Nes cyrraedd Gors Dafarn...

Nes cyrraedd Gors Dafarn...

Llwybrau Cyhoeddus

© 2023 Cyngor Cymuned Llandwrog | Gwefan gan Delwedd

Datganiad Preifatrwydd