Cychwyn o'r gamfa o lôn Bryn'Rodyn-Rhostryfan , ar draws tir garw ac i gyfeiriad orllewinol i tyddyn Cefn Coed ac yn ymuno a Llwybr 19. Gellir dweud mai cangen o llwybr 19 ydyw yn rhoid 'short cut' i Rhostryfan i'r sawl ddaw o gyfeiriad Dolydd neu Llanwnda.
Arferid ei ddefnyddio'n helaeth, ynghyd a llwybr 19, yn y blynyddoedd a fu. 'Roedd meddyg yn byw yn Tryfan Hall ac 'roedd nifer o'r triglion yn defnyddio'r llwybr fel 'short cut' o Llanwnda a Bethesda Bach.
Mae'r llwybr yma yn croesi gyda Llwybr 21 ger Gilwern Uchaf, sydd yn arwain i Bron y Gaer a Llain-fadyn yn Rhos Isaf (Llwybr 144 Cyngor Cymuned Llanwnda)
Llwybr 20 ar y map
Cychwyn ger Maes Tryfan....
© 2025 Cyngor Cymuned Llandwrog | Gwefan gan Delwedd