Lôn Drol - Cart Road Cychwyn yn Dinas Dinlle i gyfeiriad gogledd-ddwyreiniol heibio, Maes Carafanau Morfa Coch a Tŷ'n Mwd a Maes Twrog ac yn rhedeg ymlaen at pont troed llechen yn Rhyd Y Meirch nes cyrraedd iard Fferm Cefn Emrys. Rhêd y llwybr yn ei flaen trwy iard Fferm Cefn Emrys nes cyrraedd pen y daith ym mhrif ffordd Llandwrog-Caernarfon. Mae'r llwybr yn croesi Llwybr 9 yn Fferm Cefn Emrys.
Defnyddir yn helaeth ym misoedd yr Hâf gan ei fod yn 'short cut' o Dinas Dinlle i Saron, Llanwnda a'r Groeslon. Arwyneb tarmac sydd arni o Dinas Dinlle i Morfa Coch, yna arwyneb gwair i Rhyd Y Meirch. Yma gwelir pont troed llechen yn croesi'r Gamlas (Afon Foryd). Lôn drol ydy statws y llwybr o Dinas Dinlle i Fferm Cefn Emrys gyda hawl tramwyo yn unig o Rhyd Y Meirch i gyfeiriad y dwyrain at Fferm Cefn Emrys ac ymlaen i'r lôn fawr Caernarfon-Llandwrog. Ymunir a Llwybr 8 oddeutu 200 llath i gyfeiriad y gogledd i gyfeiriad Pant Emrys ac sydd yn ymuno gyda Llwybr 6 yn arwain i Ty'n Lôn.
Defnyddir y llwybr yn healaeth gan y trigolion gan ei fod yn 'short cut' i Dinas Dinlle o'r pentrefi cyfagos. Blynyddoedd yn ôl bu i cyn-berchnogion Fferm Cefn Emrys ymgais i gau y llwybr.
Llwybr gwlyb iawn , yn arbennig y Gaeaf.
Lôn drol, rhif 7 ar y map
Maes Twrog i'r chwith , y llwybr yn arwain i Ty'n Mwd yna Maes Carafannau Morfa Coch ac i'r Traeth.
Rhyd y Meirch. Yr hen bont lechen , sy'n croesi y Gamlas , neu'r Afon Foryd. (Darlun yn gwynebu i gyfeiriad Dinas Dinlle).
Giât mochyn yn arwain i gyfeiriad Fferm Cefn Emrys....noder fod y llwybr yn wlyb.
Y llwybr i gyfeiriad Dinas Dinlle
Y llwybr yn dod i fynu o Rhyd y Meirch i Fferm Cefn Emrys . Sylwer fod giat mochyn i'r ddê. Hefyd mae giat arall i'r ddê sydd yn arwain at Llwybr 9 i pentref Llandwrog.
Pen y daith, ger ffordd Llandwrog-Caernarfon , mynedfa Fferm Cefn Emrys
© 2023 Cyngor Cymuned Llandwrog | Gwefan gan Delwedd