logo

Cyngor Cymuned Llandwrog

yn gwasanaethu pentrefi Y Fron, Carmel, Y Groeslon, Llandwrog a Dinas Dinlle
Rheolwr Gweinyddol a Chyllid y Cyngor - David Roberts
Bryn Meurig, Carmel, Caernarfon, Gwynedd LL54 7DS
Ffôn: (01286) 881920/ 07796024288
gwybodaeth@cyngorcymunedllandwrog.cymru
Facebook
Twitter

Llwybr 37


Llwybr Ffynnon Dŵr Oer- Bryn i Tanybwlch

Lôn Drol / Bridleway, yn cychwyn oddiar lôn Carmel-Bryn i gyfeiriad de-ddwyreiniol , heibio talcen Warmlee, tros pont troed lechen , yn croesi'r nant , ac ymlaen i gyfeiriad Tanybwlch. Mae'r llwybr yn gwasanaethu oddeutu saith tyddyn yn yr ardal. Mae'r llwybr yn wlyb mewn mannau.

Arferir ei ddefnyddio gan trigolion i gael cyflenwad o ddŵr pûr o ffynnon a adnabyddir fel Ffynnon Dŵr Oer.

Lôn Drol / Bridleway, rhif 37 ar y map

llwybr wrth dalcen tŷ 'Warmlee' i gyfeiriad Lôn Cim

Rhediad y llwybr wrth dalcen tŷ 'Warmlee' i gyfeiriad Lôn Cim. Noder fod y ffrŵd wedi newid cyfeiriad dros y blynyddoedd ac fod y llwybr, mewn mannau, wedi diflanu. Bellach mae Cyngor Gwynedd wedi cliro ymylon yr afon ac wedi atgyweirio'r pont troed lechen wedi i'r Cyngor Cymuned ddod a'r mater i'w sylw.

Y llwybr i gyfeiriad Lon Bryn-Carmel ger 'Warmlee'

Y llwybr i gyfeiriad Lon Bryn-Carmel ger 'Warmlee'

Llwybrau Cyhoeddus

© 2023 Cyngor Cymuned Llandwrog | Gwefan gan Delwedd

Datganiad Preifatrwydd