Llwybr troed - Footpath Cychwyn wrth hen Eglwys Sant Tomos i gyfeiriad y dwyrain am pentref Carmel. Wrth Fferm Bryn Neidr mae'r llwybr yn rhannu i ddau gyfeiriad.
Y cyntaf - i gyfeiriad y gogledd, felly troi i'r dde wrth y giat ger Fferm Bryn Neidr ac mae'r llwybr yn ymylu gyda wal y cae ac yn ymuno a prif ffordd Carmel-Groeslon gyferbyn a Berwyn ac i'r dwyrain o Cae Cyd.
Ail - Trwy giat mochyn i'r chwith o Bryn Neidr ( i gyfeiriad y dê) heibio talcen beudy'r fferm , trwy giat mochyn arall nes cyrraedd caeau agored. Troi i'r chwith yma trwy'r rhedyn i fynu heibio Ceasion Isaf (Roseark Cottage) ac ymlaen at Ty'n Gadlas nes cyrraedd giat sydd ar ffordd eilradd sef mynedfa Green Bank. O'r giat werth Tyn Gadlas, gweler giat fochyn yn arwain i Bryn Brith, Ty Croes a Ceision Mawr ac ymlaen heibio Gwyndy nes cyrraedd giat wrth Tai Maes Hyfryd is law a Maes Gwyn. Croesi 'r ffordd ac i fynu llwybr am gyfeiriad Bod Alwyn (yr hen Dy Sinc).
Mae'r llwybr yn cychwyn ger yr Eglwys gyda Llwybr 59 sydd yn arwain i Fferm Uwchlawrhos.
Llwybr hynod o boblogaidd hyd heddiw. Galwch i mewn i Siop Doris am ddiod ar pen eich taith. Arferid defnyddio'r llwybr gan trigolion Carmel wrth fynd i Eglwys Sant Tomos yn y blynyddoedd a fu.
Bu i rediad y llwybr ei newid yn 1984 ac yn 1993. Path Diversion Order 1994 and 1993.
Llwybr Troed- Footpath , rhif 50 ar y map
Yr hen Eglwys Groeslon wedi ei ddymchwel.
O'r hen Eglwys i gyfeiriad Carmel, nes cyrraedd giat wrth Bryn Neidr
Y llwybr yn arwain i Berwyn (i'r dde) neu heibio'r bydai (chwith) yn arwain i Carmel
Camfa yn arwain o Berwyn i Bryn Neidr..
Yn arwain at giat a camfa...
Nes cyrraedd prif-ffordd Carmel-Groeslon.
Heibio cefn Bryn Neidr nes cyrraedd giat mochyn sydd yn arwain i Carmel
Giat fochyn oddueutu 50 llath o Bryn Neidr....
Croesi'r ffrwd sydd yn dod o'r Berwyn...
Yr olygfa o Ty'n Gadles. Bryn Neidr sydd yn y canol
O gyfeiriad Bryn Brith i Ty'n Gadlas.
O gyfeiriad Gwyndy yn arwain at 'Ty Croes', 'Bryn Brith' a 'Ty'n Gadlas'...
Giat wrth Tai Newydd, Carmel. Mae'r llwybr yn croesi'r lôn ac yn arwain at....
Bod Alwyn , Carmel (yr hen dy sinc cynt). Gyferbyn mae'r enwog...
Siop Doris
© 2023 Cyngor Cymuned Llandwrog | Gwefan gan Delwedd