logo

Cyngor Cymuned Llandwrog

serving the villages of Y Fron, Carmel, Y Groeslon, Llandwrog and Dinas Dinlle
The Council's Administration and Finance Manager - David Roberts
Bryn Meurig, Carmel, Caernarfon, Gwynedd LL54 7DS
Ffôn: (01286) 881920/ 07796024288
rheolwr@cyngorcymunedllandwrog.cymru
Facebook
Twitter

Footpath 59


Llwybr Cefnen - Uwchlawrhos, Groeslon (Welsh only..)

Llwybr Troed - Footpath Llwybr yn cychwyn oddeutu 20 llath i'r islaw a mynediad Eglwys Sant Tomos, Y Groeslon ac sydd uwchlaw Tyddyn CefnenY Groeslon. Rhêd y llwybr i gyfeiriad y dê, trwy tir garw gan ymylu a llwyni nes cyrraedd buarth Fferm Uwchlawrhos. Ymunir a Llwybr 51 hebio'r gwaith llechi sydd yn y iard.

Mae'r llwybr yma yn cysylltu a dau llwybr arall ond nid yw'r llwybrau yma ar y 'definitive map'. Y cyntaf Llwybr 91. Wedi cyrraedd at y tir agored (cyn anelu at y llwyni sydd yn arwain at Fferm Uwchlawrhos) mae llwybr yn arwain at giat fochyn i gyfeiriad de-ddwyreiniol nes cyrraedd hen waith dwr Penllwyn ac yn ymuno hefo Llwybr 50 yma.Yr ail yw Llwybr 90 yn cychwyn o Bryn Neidr i gyfeiriad y gorllewin nes ymuno a croesi y llwynr yma ac ymlaen i Tyddyn Meinsier yn ymuno felly hefo Llwybr 56.

Llwybr hynod o boblogaidd yn yr hen ddyddiau.

Llwybr Troed , rhif 59 ar y map

Lleoliad yr hen Eglwys Sant Tomos

Lleoliad yr hen Eglwys Sant Tomos - sut yn y byd y cyrhaeddwyd at sefyllfa fel hyn? Beth fyddai'r henefwyr yn ei feddwl tybed?

Yr hen Eglwys o'r giat

Yr hen Eglwys o'r giat

arwain i'r lôn ger Cefnen

Man cychwyn, arwydd i'r chwith (gorllewin) yn arwain i'r lôn ger Cefnen, arwydd i'r chwith yn arwain i'r dwyrain Bryn Neidr ac ymlaen i Carmel

Ymlaen i gyfeiriad y dê...

Ymlaen i gyfeiriad y dê...

Trwy'r rhedyn ac ymylu gyda'r llwyni i gyfeiriad y de..

nes cyrraedd giat fochyn..

nes cyrraedd giat fochyn..

..croesi'r hen ffrwd..

..croesi'r hen ffrwd..

..nes cyrraedd giat a camfa yn arwain at..

..nes cyrraedd giat a camfa yn arwain at..

Fferm Uwchlawrhos

Fferm Uwchlawrhos

Mr Lith Jones, perchennog Fferm Uwchlawrhos.

Mr Lith Jones, perchennog Fferm Uwchlawrhos.

Public Footpaths

© 2026 Llandwrog Community Council | Website by Delwedd

Privacy Notice