Llwybr March - Bridleway (yn cynnwys ffordd drifft i wartheg - 'driftway for cattle') Cychwyn tros gamfa ger Pont Cae Doctor Bach ar lôn Caernarfon i Llandwrog i gyfeiriad ddwyreiniol ar draws caeau. Rhêd y llwybr wrth ymylu hefo Afon Carrog. Rhaid croesi'r lôn yn Dôl Meredydd wrth Pant Yr Hedyn ac yn ei flaen i gyfeiriad ddwyreiniol, eto yn ymylu gyda Afon Carrog, nes cyrraedd Coed Y Mount, ac ymlaen i gyfeiriad de-orllewin i Ty'n Lôn. Rhaid croesi'r ffordd, a dilyn llwybr march, bychain, tros ffordd i gamfa ar y chwith , a dod allan ar ffordd fawr Caernarfon-Pwllheli gyferbyn a mynedfa Fferm Rhiwallen. Yn Dôl Meredydd gellir cerdded ar hyd y lôn i gyfeiriad y dê am 400 llath cyn cyrraedd Pant Emrys nes cyrraedd Llwybr 8 sydd yn ymuno a Llwybr 7 ac sydd yn arwain i traeth Dinas Dinlle
Llwybr yr arferid ei ddefnyddio'n healaeth gan ffermydd cyfagos ynghyd a tai preifat i fynu at Ty'n Lôn. Noder mai gwair yw'r lôn drol sydd yn arwain i Tyn Lôn cyn belled a Mount Hazel.
Arferid ei defnyddio'n reolaidd gan y trigolion.
Llwybr march , rhif 6 ar y map
Trac yn cychwyn o lon Ty'n Lon i gyfeiriad Coed y Mount (Mount Hazel)
I'r chwith o'r trac gweler giat fochyn sydd yn arwain at gamfa ar y prif ffordd C'fon-Pwllheli
Giat fochyn arall...
Yn arwain at ffrwd fechan.Gellir ei chroesi gan fod cerrig cerdded arni
Nes cyrraedd y prif ffordd . Rhiw-afallen sydd gyferbyn
I'r dde ar y trac, gweler camfa
Yn arwain i gyfeiriad gorllewin at tir agored.Rhaid cadw i'r dde o'r gamfa...
Nes cyrraedd camfa....
Camfa arall...
Tir gwlyb yma....
Tir agored yn arwain at Dôl Meredydd
Dôl Meredydd. Camfa i'r dde o'r giat.
Camfa.Rhed y llwybr yn ei flaen heibio'r stad
Arwyddion , dde i gyfeiriad Ty'n Lôn, chwith i Pont Cae Doctor Bach
Heibio stad Dôl Meredydd..
At dir agored a giat mochyn....
Giat arall gyda arwyddion....
Pen y daith, Pont Cae Doctor Bach...
Afon yn croesi'r bont.
'Cae Doctor Bach' yw'r ty sydd i'r chwith ar y lôn i Landwrog
© 2025 Llandwrog Community Council | Website by Delwedd