logo

Cyngor Cymuned Llandwrog

serving the villages of Y Fron, Carmel, Y Groeslon, Llandwrog and Dinas Dinlle
The Council's Administration and Finance Manager - David Roberts
Bryn Meurig, Carmel, Caernarfon, Gwynedd LL54 7DS
Ffôn: (01286) 881920/ 07796024288
rheolwr@cyngorcymunedllandwrog.cymru
Facebook
Twitter

Footpath 15


Llwybr Lôn Llwyngwalch i Glan Carrog (Welsh only..)

Cychwyn o Lôn Llwyngwalch gyferbyn a mynedfa Cefn Eithin ar draws caeau nes cyrraedd lu a Fferm Caegarw cyn troi i gyfeiriad dwyreiniol tu ôl i Plas Ffynnon nes cyrraedd adfail Ysgubor Fawr . Yma mae'r llwybr yn fforchio i ddau gyfeiriad-

Yn gyntaf i gyfeiriad ddwyreiniol ac yn rhedeg yn paralel gyda Lôn Eifion mewn cyfeiriad deheuol am 200 medr ar hyd mynedfa lôn newydd cyn troi eto i gyfeiriad dwyreiniol a chroesi y trac beiciau at giat farch (bridlegate) cyn derbyn mynediad i'r A487 ffordd osgoi Llanllyfni. Ail gychwynir ar yr ochr arall i'r ffordd osgoi, yn ei flaen i gyfeiriad dwyreiniol tra'n ymuno a hen ffordd yr A487 rhwng Bodnant a Glyn Carrog.

Yr ail gyfeiriad yw fod y llwybr yn rhedeg i gyfeiriad gogleddol am 200 medr cyn troi i gyfeiriad orllewinol a rhedeg yn paralel gyda Afon Carrog am 100 medr tra'n ymuno a'r A499 wrth gamfa carreg tros y ffordd i Cae Boncaw.

Llwybr 15 ar y map

 

Public Footpaths

© 2026 Llandwrog Community Council | Website by Delwedd

Privacy Notice