logo

Cyngor Cymuned Llandwrog

serving the villages of Y Fron, Carmel, Y Groeslon, Llandwrog and Dinas Dinlle
The Council's Administration and Finance Manager - David Roberts
Bryn Meurig, Carmel, Caernarfon, Gwynedd LL54 7DS
Ffôn: (01286) 881920/ 07796024288
rheolwr@cyngorcymunedllandwrog.cymru
Facebook
Twitter

Footpath 57 A


Llwybr Carmel i Nantlle (Welsh Only)

Llwybr troed - Footpath. Llwybr yn cychwyn o'r prif ffordd Carmel-Y Fron hanner ffordd ar hyd y Tomen Sibi tua 200 llath o Penbwlch Bach. Rhêd y llwybr trwy Mynydd Y Cilgwyn i gyfeiriad de-ddwyrain ac yn gorffen yn ochor gogledd Cilgwyn a Chwarel Penyrorsedd a Penybryn.Mae'r llwybr yn ymuno a llwybr 122 Cymuned Llanllyfni. Mae'r ffin wrth y giat ar gychwyn y lôn dymp ger Llyn Cop. Rhed llwybr 122 yn ei flaen trwy Penyrorsedd/Penbryn ac ymuno a llwybr 128 Cymuned Llanllyfni ger Twll Balast.

Llwybr a fyddai'n cael ei ddefnyddio yn helaeth gan chwarelwyr y Cilgwyn a Penyrorsedd gan ei fod yn 'short cut' i chwarelwyr o Carmel a Groeslon. Llwybr ar dir comin ydi hwn.

Llwybr troed , rhif 57A ar y map

Public Footpaths

© 2026 Llandwrog Community Council | Website by Delwedd

Privacy Notice