Mae cynllun rheoli cynaliadwy Comin Uwch Gwyrfai a weinyddir gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ynghyd â chymdeithas porwyr Uwch Gwyrfai yn anelu i blannu coed collddail brodorol Cymreig mewn ardaloedd ar y comin.
Un o'r gofynion i blannu coed ar y tir comin ydi ymgynghori gyda thrigolion lleol. Mae pawb sydd yn byw oddi fewn i 200m o ardal plannu arfaethedig wedi derbyn llythyr gan Parc Eryri . Gweler y map ynghlwm.
Mae targed i blannu cyfanswm o 6 hectar dros y comin. I roi mewn cyd‐destun mae hyn yn gyfatebol i 0.6% o ardal y comin. Yn yr achos yma mae gwrychoedd yn cael eu cynnig
Os oes unrhyw wrthwynebiad i’r gwaith plannu arfaethedig rhaid anfon eich sylwadau i’r Parc erbyn 01/10/2020 . Os nad oes unrhyw wrthwynebiad i’r cynllun plannu bydd y Parc yn cymeryd eich bod yn hapus gyda’r cynllun.
Manylion cywswllt i anfon eich gwrthwynebiad yw:
Dion Roberts
Swyddog Prosiect Cysylltu Comin a Chymuned Uwch Gwyrfai.
Project Officer
Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
Penrhyndeudraeth,
Gwynedd,
LL48 6LF
Tel - 01766 772 265
Mobile – 07917 651973
Dion.roberts@eryri.llyw.cymru
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am cynllun rheoli cynaliadwy Comin Uwch Gwyrfai
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am Safleodd plannu coed arfaethedig
© 2023 Cyngor Cymuned Llandwrog | Gwefan gan Delwedd