logo

Cyngor Cymuned Llandwrog

yn gwasanaethu pentrefi Y Fron, Carmel, Y Groeslon, Llandwrog a Dinas Dinlle
Rheolwr Gweinyddol a Chyllid y Cyngor - David Roberts
Bryn Meurig, Carmel, Caernarfon, Gwynedd LL54 7DS
Ffôn: (01286) 881920/ 07796024288
gwybodaeth@cyngorcymunedllandwrog.cymru
Facebook
Twitter

Perllan Cymunedol, Clwt Foty, Carmel


Mae cynllun rheoli cynaliadwy Comin Uwch Gwyrfai a weinyddir gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ynghyd â chymdeithas porwyr Uwch Gwyrfai yn anelu i blannu perllan gymunedol ar y safle a ddangosir ar y map ynghlwm.

Un o'r gofynion i blannu coed ar y tir comin ydi ymgynghori gyda thrigolion lleol. Mae pawb sydd yn byw oddi fewn i 200m o ardal plannu arfaethedig wedi derbyn llythyr gan Parc Eryri . Gweler y map ynghlwm.

Mae’r safle hwn wedi’i benodi fel safle priodol i blannu perllan gymunedol oherwydd i agosrwydd i’r pentref sy’n galluogi trigolion ddefnyddio’r berllan, mae’n dir comin ac nid yw mewn defnydd amaethyddol.

Bydd y berllan gymunedol yn cynnwys coed ffrwythau sydd ddim yn tyfu’n uchel i sicrhau cyn lleied o effaith ar olygfeydd ac sy’n bosib. Rhaid sicrhau nad oes gan trigolion lleol unrhyw wrthwynebiad cadarn yn erbyn y gwaith arfaethedig.

Os oes unrhyw wrthwynebiad i’r gwaith plannu arfaethedig rhaid anfon eich sylwadau i’r Parc erbyn 01/10/2020 . Os nad oes unrhyw wrthwynebiad i’r cynllun plannu bydd y Parc yn cymeryd eich bod yn hapus gyda’r cynllun.
Manylion cywswllt i anfon eich gwrthwynebiad yw –

Dion Roberts
Swyddog Prosiect Cysylltu Comin a Chymuned Uwch Gwyrfai.
Project Officer
Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
Penrhyndeudraeth,
Gwynedd,
LL48 6LF

Tel - 01766 772 265
Mobile – 07917 651973
Dion.roberts@eryri.llyw.cymru

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am cynllun rheoli cynaliadwy Comin Uwch Gwyrfai

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am Safleodd plannu coed arfaethedig

Newyddion

© 2023 Cyngor Cymuned Llandwrog | Gwefan gan Delwedd

Datganiad Preifatrwydd