logo

Cyngor Cymuned Llandwrog

yn gwasanaethu pentrefi Y Fron, Carmel, Y Groeslon, Llandwrog a Dinas Dinlle
Rheolwr Gweinyddol a Chyllid y Cyngor - David Roberts
Bryn Meurig, Carmel, Caernarfon, Gwynedd LL54 7DS
Ffôn: (01286) 881920/ 07796024288
gwybodaeth@cyngorcymunedllandwrog.cymru
Facebook
Twitter

Lôn Ffrwd, Llandwrog


Lôn Ffrwd, Llandwrog

Mae Lôn Gul/Lôn Ffrwd wedi bod yn destun siarad am nifer o flynyddoedd, yn arbennig pan mae cerbydau mawr neu lydan yn ceisio ei defnyddio. Mae’n amlwg fod ‘Sat Nav’ nifer o geir a faniau yn eu cyfeirio ar hyd y ffordd hwn ac wrth gwrs, mae’r cerbydau yn defnyddio lled y lôn i gyd. Defnyddir y lôn yn rheolaidd gan drigolion lleol i fynd am dro, beicio ac i gerdded eu cŵn yn ddi-draffig (y rhan fwyaf o’r amser) a phan ddaw cerbyd, does dim lle iddynt basio eu gilydd a rhaid i’r bobl fynd yn ôl i le lletach er mwyn i’r cerbyd basio ac mae hyn yn gallu bod yn beryglus. Mae yna arwyddion glas ar bob pen i’r lôn yn rhybuddio traffig i beidio ei defnyddio. 

Mae’r lôn yn bwysig iawn i drigolion Ffrwd, i’r rhai sy’n byw ym mhen Llandwrog ohonni, i gael mynediad i’r fynwent ac i ddeilydd y tir gael mynediad i fwydo a chadw golwg ar ei anifeiliaid. 

Oes gennych chi fel trigolion yr ardal farn arbennig am ddefnydd y lôn? Mae croeso i chi adael eich sylwadau isod a bydd pob un yn cael eu hystyried a’u trafod gan y Cyngor Cymuned ac bydd unrhyw argymhellion yn cael eu pasio ymlaen at Gyngor Gwynedd.

 

Anfonwch eich barn at gwybodaeth@cyngorcymunedllandwrog.cymru

Newyddion

© 2023 Cyngor Cymuned Llandwrog | Gwefan gan Delwedd

Datganiad Preifatrwydd