Llwybr Pen Carmel
Mae’r Cyngor yn diolch i bawb sydd wedi gohebu ynddiweddar ynghylch llwybr Pen Carmel. Yn dilyn cyfarfod o’r Cyngor Cymuned a gynhaliwyd 17 Ionawr 2022 penderfynwyd y dylai pawb sydd yn cefnogi gofrestru’r llwybr gwblhau ffurflen o broses Cyngor Gwynedd sef Datganiad o Dystiolaeth i Gefnogi’r Cais. Dylid cyflwyno’r ffurflen wedi ei chwblhau dim hwyrach na 31 Mawrth 2022 i gwybodaeth@cyngorcymunedllandwrog.cymru . Mae'r ffurfen ar gael yma /cms/resources/datganiad-o-dystiolaeth-i-gefnogi-cais-1.pdf Mae hefyd ar gael ar wefan Cyngor Gwynedd Microsoft Word - Datganiad_o_Dystiolaeth_i_Gefnogir_Cais.doc (llyw.cymru)-
Ni fydd y Cyngor Cymuned yn rhoi unrhyw fath o ystyriaeth ynghylch cais i Gyngor Gwynedd am gofrestru’r llwybr cyn 31 Mawrth, 2022.
Dalier sylw fod proses Cyngor Gwynedd i ymwneud â chais am gofrestru llwybr yn cynnwys derbyn sylwadau ffurfiol oddi wrth gwrthwynebwyr.
Am fwy o wybodaeth am y datganiad hwn cysylltwch gyda’r Cyngor trwy ebost gwybodaeth@cyngocymunedllandwrog.cymru
Mae manylion llawn y broses ar gael ar gwefan Cyngor Gwynedd https://www.gwynedd.llyw.cymru/cy/Trigolion/Parcio-ffyrdd-a-theithio/Hawliau-Tramwy-Cyhoeddus/Hawliau-Tramwy-Cyhoeddus.aspx
Ffurflen Datganiad o Dystiolaeth→ /cms/resources/datganiad-o-dystiolaeth-i-gefnogi-cais-2.pdf
© 2023 Cyngor Cymuned Llandwrog | Gwefan gan Delwedd