Llwybr Pen Carmel
Mae wedi dod i sylw’r Cyngor Cymuned fod llwybr Pen Carmel wedi ei gau, ac nid oes mynediad bellach i’r mynydd i fyny o Rhes Gefn ac heibio Bryn Gorwel
Nid yw’r llwybr hwn wedi ei gofrestru fel llwybr statudol (gweler y map isod gan Cyngor Gwynedd sydd yn ei ddangos fel “unregistered footpath”) ac felly nid oes gan Adran Hawliau Tramwy Cyngor Gwynedd yr awdurdod i orfodi’r perchennog y tir i gadw’r llwybr ar agor.
Fodd bynnag mae’n bosib gwneud cais i Cyngor Gwynedd o dan Deddf Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt 1981 i ychwanegu’r llwybr i’r Map Statudol. Mae angen felly tystiolaeth fod yna ddefnydd yn cael ei wneud o’r llwybr cyn cyflwyno’r cais.
Gan hynny gofynnir am farn trigolion. Oes gennych chi deimladau cryf y dylid cadw’r llwybr ar agor a gwarchod yr hawl i’w dramwyo? Oes gennych farn cryf y dylid ei gau? Ydych chi wedi cerdded y llwybr? Pa mor amal?
Anfonwch eich sylwadau trwy e-bost gwybodaeth@cyngorcymunedlandwrog.cymru os gwelwch yn dda. Gwerthfawrogir unrhyw sylwadau.
© 2023 Cyngor Cymuned Llandwrog | Gwefan gan Delwedd