logo

Cyngor Cymuned Llandwrog

yn gwasanaethu pentrefi Y Fron, Carmel, Y Groeslon, Llandwrog a Dinas Dinlle
Rheolwr Gweinyddol a Chyllid y Cyngor - David Roberts
Bryn Meurig, Carmel, Caernarfon, Gwynedd LL54 7DS
Ffôn: (01286) 881920/ 07796024288
gwybodaeth@cyngorcymunedllandwrog.cymru
Facebook
Twitter

Ffliw Adar a Cheidwaid Dofednod Lleol


Ar y 5ed o Fedi 2022, derbyniodd Safonau Masnach Cyngor Gwynedd (Iechyd Anifeiliaid) hysbysiad gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) am bresenoldeb ffliw adar pathogenaidd iawn (HPAI) H5N1 ar safle adar caeth yn Arthog, Gwynedd. Cafodd Ardal Amddiffyn 3km a Pharth Gwyliadwriaeth 10km eu datgan o amgylch yr adeiladau heintiedig.
 
Yn dilyn ymyrraeth cyflym gan APHA a Safonau Masnach Cyngor Gwynedd (Iechyd Anifeiliaid), drwy weithredu gweithgareddau rheoli clefydau oddi fewn y parth diogelu 3km, mae’r parth bellach wedi cael ei godi (ers 30 Medi 2022).  Mae’r parth gwyliadwriaeth 10km fodd bynnag yn parhau yn ei le. Mae rhagor o fanylion am y mesurau yn y parth gwyliadwriaeth ar gael ar:
 
https://llyw.cymru/datganiad-o-barth-gwarchod-parth-gwyliadwriaeth-ffliw-adar-ger-arthog-gwynedd-cymru   
 
Mae ffliw adar yn debygol o fod yn broblem barhaus o fewn y dyfodol agos, ac o'r herwydd, byddem yn gofyn am ac yn annog unrhyw geidwaid dofednod domestig neu adar cawell i gofrestru eu hadar gyda'r APHA ar:
https://www.gov.uk/government/publications/poultry-including-game-birds-registration-rules-and-forms.cy  
 
Drwy gofrestru eich adar, byddwch yn helpu i atal clefydau rhag lledaenu a diogelu'r praidd dofednod cenedlaethol ac yn caniatáu i'r APHA gysylltu â chi os oes achosion o glefyd (fel ffliw adar) yn eich ardal chi.
 
Fodd bynnag, os byddwch yn profi unrhyw farwolaethau dofednod sydyn ac os oes gennych unrhyw bryderon yn ymwneud ag iechyd eich adar yna cysylltwch ag APHA ar 0300 3038268  

 

Newyddion

© 2023 Cyngor Cymuned Llandwrog | Gwefan gan Delwedd

Datganiad Preifatrwydd