Eisteddfod Genedlaethol Llyn ac Eifionydd 2023
Cynhelir yr Eisteddfod ym Moduan , ger Pwllheli yn ystod Awst 2023. Gohiriwyd yr Eisteddfod, oedd i fod i'w chynnal yno yn Awst 2021, oherwydd Covid.
Yn Rhagfyr 2019 gosodwyd targed ariannol ar ardal Llandwrog o £5,000 gan Swyddfa’r Eisteddfod (gweler llythyr dyddiedig Rhagfyr 2019). Cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus yn Neuadd Pentref Y Groeslon ar 10 Mawrth 2020 i greu Pwyllgor Apêl Leol yn Llandwrog, Y Groeslon, Carmel a Bron i ymdrechu i gasglu arian i gyrraedd y targed. Yn sydyn reit wedi'r cyfarfod , fe darodd y pandemig ac nid oes unrhyw weithgaredd wedi cymryd lle ers hynny
Mae Swyddfa'r Eisteddfod wedi cysylltu gyda'r Cyngor Cymuned (10/2/22) yn cadarnhau fod y targed o £5,000 yn parhau i sefyll. Bydd Swyddogion y Pwyllgor Apêl yn cysylltu yn fuan i ail gychwyn y Pwyllgor Apêl.
Mae'n debyg y bydd y Cyngor Cymuned yn cyfrannu at y targed ond nid yw'r Cyngor wedi penderfynu eto beth fydd swm ei gyfraniad.
Am wybodaeth bellach cysylltwch gyda'r Cyngor - gwybodaeth@cyngorcymunedllandwrog.cymru
/cms/resources/apel-cynghorau-lleol-2021-2-3.pdf
/cms/resources/apel-cynghorau-lleol-2023-chwefror-2022-1.pdf
© 2023 Cyngor Cymuned Llandwrog | Gwefan gan Delwedd