Annwyl Dafydd Roberts,
Yn dilyn fy niweddariad diwethaf, mae Julie James AS wedi cytuno i edrych ar weithio gyda Chyngor Gwynedd i ariannu atgyweiriadau posibl ar gyfer y bobl hynny na allant gael adferiad neu iawndal gan y contractwr na’r gwarantwr. Yr wyf yn ymwybodol o bum achos o’r fath yn Arfon.
Atodaf gopi o’r adran berthnasol o’r Cofnod, er eich gwybodaeth.
Y cyngor o hyd yw y dylech gysylltu â'r contractwr yn y lle cyntaf i ofyn iddynt ddelio gyda’r problemau a gafwyd. Dylai unrhyw un sy'n wynebu anawsterau gyda hyn roi gwybod i mi fel y gallaf geisio cynorthwyo.
Os yw’r contractwr wedi mynd i’r wal a bod gennych warant gan Kinnell (a elwir bellach yn QANW) yna cysylltwch â’r gwarantwr i wneud hawliad:
QANW
PO Box 26332
Ayr
Scotland
KA7 9BJ
info@qanw.co.uk
Os oes gennych Insurance Backed Guarantee (IBG) gan Enterprise Insurance Company sydd yn eich enw chi, yna mae angen i chi gysylltu â mi am fanylion ar sut i wneud hawliad. Mae Enterprise yn Ymddatod ond rydym mewn cysylltiad â'r Diddymwyr ynghylch hawliadau IBG.
Os ydych mewn sefyllfa lle na ellir gwneud hawliad i’r contractwr nac i’r gwarantwr, yna cysylltwch â mi cyn gynted â phosibl.
Yn gywir,
Siân Gwenllian
Aelod o'r Senedd dros Arfon / Member of the Senedd for Arfon
01286 672076
8 Stryd y Castell, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1SE
/cms/resources/cynllun-arbed-2the-arbed-2-scheme-1.pdf
© 2023 Cyngor Cymuned Llandwrog | Gwefan gan Delwedd