Cynllun Insiwleiddio Waliau Allanol (EWI) dan Raglen Cartrefi Cynnes (Arbed) yn Carmel a Fron
Hwyrach fod rhoi ohonnoch wedi gweld y stori ar newyddion yr wythnos diwethaf fod Llywodraeth Cymru a Cyngor Sir Penybont-ar Ogwr yn talu am waith atgyweirio 104 o dai yn Caerau, Maesteg ar gynllun insiwleiddio tai yno a wnaed nol yn 2012/13. Stori ar y linc > Insiwleiddio gan gyngor wedi 'difetha' cartrefi Maesteg - BBC Cymru Fyw
Mae Llywodraeth Cymru wedi clustnodi £2.55miliwn a Chyngor Sir Pen-y-bont -ar Ogwr wedi clustnodi £850,000 ar gyfer y gwaith atgyweirio i trigolion Caerau.
Rhaid felly gofyn i Siân Gwenllian AS ac i Cynghorydd Dilwyn Lloyd i bwyso eto ar Lywodraeth Cymru a Chyngor Gwynedd i gynnal ymchwiliad llawn ar y cynllun a wnaed yn Carmel a Fron, ac i ariannu unrhyw ddiffygion.
Mae Siân Gwenllian a'r Cyngor Cymuned wedi dod ar mater gerbron y Llywodraeth ar sawl achlysur ond nid oes unrhyw addewid wedi dod ganddynt i ariannu'r diffygion.
Gofynnir i'r trigolion hynny sydd yn cael problemau dwr yn eu cartrefi, neu broblemau gyda'r rendro (ac eithrio problemau lliw) i gysylltu gyda'r Cyngor Cymuned neu gyda Swyddfa Plaid Cymru gyda lluniau o'r problemau. Cyfeiriad ebost y Cyngor Cymuned yw gwybodaeth@cyngorcymunedllandwrog.cymru
© 2023 Cyngor Cymuned Llandwrog | Gwefan gan Delwedd