Parthed: Cynllun Gwaharddau Parcio Arfaethedig – Bethesda Bach
Gohebiaeth i Cyngor Cymuned Llandwrog gan Uwch Beiriannydd Traffig
Gwasanaeth Trafnidiaeth a Chefn Gwlad Cyngor Gwynedd
Ymhellach i trafodaeth cynhyrchiol iawn rhwng Cynghorydd Llio Elenid Owen a Swyddogion Gwasanaeth Trafnidiaeth ac Adran Priffyrdd Cyngor Gwynedd ynglŷn a parcio ddiystyred ym Methesda Bach, atodir cynlluniau arfaethedig am waharddau parcio yn y lleoliadau perthnasol (cynlluniau ar wefan Cyngor Cymuned – cyngorcymunedllandwrog,cymru/newyddion)
Gofynnir i’r Cyngor Cymuned ychwanegu'r eitem hon i agenda cyfarfod a gynhelir 18 Mawrth i'w drafod.
Gofynnir i’r Cyngor Cymuned a oes ffafriaeth i un o’r cynlluniau neu os oes yna opsiynau eraill i gysidro byddai Cyngor Gwynedd yn hapus i’w derbyn.
Dywed Swyddogion Cyngor Gwynedd –
“Mae’n hanfodol i chi drafod y pwyntiau canlynol cyn dod i’ch penderfyniad ogydd:
Mae’n bwysig i’ch hysbysu fod gan Wasanaeth yr Heddlu bwerau i orfodi problemau o’r math. A oes yna opsiwn i trafod hyn gyda’r Heddlu i weld os oes yna datrysiad tymor byr? Mae lleoli cerbyd mewn man peryglus yn groes i Adran 22 o Ddeddf Traffig Ffyrdd. Os yw cerbydau yn cael ei gadael mewn man sydd yn achosi rhwystr diangen mae hyn yn groes i reoliad 103 o Reoliadau Cerbydau Ffordd (Adeiladu a Defnyddio) 1986. Mae Rheoliad 103 yn creu'r drosedd na ni chaiff unrhyw un sydd mewn gofal cerbyd modur neu drelar i’w adael ar y ffordd ac achosi unrhyw rwystr dianghenraid.
Gobeithio bod yr uchod yn eich cyfarwyddo ac dewch yn ôl ataf os oes gennych cwestiynau pellach. Byddwn yn gwerthfawrogi os y gallwch cydnabod derbyn yr e-bost hwn a'ch penderfyniad ar y cynigion yn dilyn y cyfarfod”
/cms/resources/01-bethesda-bach-3.pdf
/cms/resources/02-bethesda-bach-3.pdf
/cms/resources/03-bethesda-bach-1.pdf
/cms/resources/04-bethesda-bach-3.pdf
/cms/resources/05-bethesda-bach-1.pdf
© 2025 Cyngor Cymuned Llandwrog | Gwefan gan Delwedd