logo

Cyngor Cymuned Llandwrog

yn gwasanaethu pentrefi Y Fron, Carmel, Y Groeslon, Llandwrog a Dinas Dinlle
Rheolwr Gweinyddol a Chyllid y Cyngor - David Roberts
Bryn Meurig, Carmel, Caernarfon, Gwynedd LL54 7DS
Ffôn: (01286) 881920/ 07796024288
gwybodaeth@cyngorcymunedllandwrog.cymru
Facebook
Twitter

Coronafirws - Grant ar Gyfer Pobol Fregus


Mae Cyngor Cymuned Llandwrog yn annog pawb i gadw golwg dros bobol fregus ein cymuned yn y cyfnod anodd hwn.

Os oes unrhyw fudiad neu gorff gwirfoddol yn ein cymuned angen cymorth ariannol i gefnogi ein pobol fregus sydd yn ynysu mae'r Cyngor yn cynnig grant cychwynnol o £100 i un grŵp i pob pentref sef Llandwrog, Dinas Dinlle, Y Groeslon, Carmel a Fron.

Gofynnir am fanylion bras o unrhyw gynllun sydd dan sylw. Byddwn yn gofyn am adroddiad neu dystiolaeth o wariant ar y diwedd.

Beth y gellir ei gefnogi?

  • Costau rhedeg grwpiau/sefydliadau i ddarparu cymorth i bobol fregus cymuned Llandwrog , gan gynnwys pecynnau bwyd.

Gallai enghreifftiau gynnwys:

  • Galluogi pobl hŷn i gael prydau maethlon drwy eu cysylltu â gwasanaethau sy'n darparu bwydydd, a/neu brydau parod.
  • Estyn allan i bobl hŷn ynysig dros y ffôn, a chyfeillio os oes modd.
  • Galluogi pobl hŷn i gadw'n gynnes drwy gael mynediad i olew cynhesu cartref neu ddillad cynnes

Bydd angen y wybodaeth ganlynol:

  1. Enw llawn y mudiad / grŵp, sydd yn gwneud y cais
  2. Enw a chyfeiriad, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost y person sydd yn gwneud y cais ar ran y grŵp
  3. Manylion banc - rhif didoli a chyfrif banc
  4. Manylion y gweithgaredd

Ceisiadau i:

Rheolwr Gweinyddol a Chyllid y Cyngor
Bryn Meurig
Carmel

E-bost: gwybodaeth@llandwrog.org
Rhif ffôn: 01286 881920 neu 07796 024288

Newyddion

© 2023 Cyngor Cymuned Llandwrog | Gwefan gan Delwedd

Datganiad Preifatrwydd