Dogfen Weledigaeth Canolfan Lleu
Mae’n bleser mawr gallu rhannu Dogfen Weledigaeth Canolfan Lleu gyda chi. Mae Grŵp Cynefin yn hynod o falch o fod yn arwain ar y prosiect uchelgeisiol hwn, gyda’n partneriaid Cyngor Gwynedd, y Bwrdd Iechyd a Theatr Bara Caws.
Byddwch yn ymwybodol o’r prosiect yn barod ac rydym yn gwerthfawrogi eich diddordeb a’ch cefnogaeth i drafod y cynllun. Bydd cefnogaeth leol yn allweddol i’n llwyddiant o ddenu arian a gwireddu ein cynlluniau gyfer canolfan llesiant arloesol sy’n cael ei chynnig yng nghanol Penygroes, er lles cymunedau Dyffryn Nantlle i gyd.
Mae Dogfen Weledigaeth Canolfan Lleu yn ddogfen sylweddol sy’n ganlyniad i flynyddoedd o waith ymgynghori i ddeall anghenion a dyheadau cymunedau’r dyffryn, datblygu’r achos busnes a sut gall y partneriaid a chyfranogwyr weithio gyda’i gilydd.
Yn gryno, nod Canolfan Lleu ydi yw;
• cryfhau cymunedau ar draws Dyffryn Nantlle
• cefnogi iechyd a lles pobl trwy gynnig gwasanaethau iechyd traddodiadol ac ataliol gan gynnwys meddygfa
• creu lle i gymdeithasu a chysylltu pobol hefo’i gilydd gan gynnwys swyddfeydd a theatr
• cryfhau’r economi leol
O’i gwireddu, bydd Canolfan Lleu yn gwthio ffiniau a gobeithio yn ysbrydoli cymunedau eraill Cymru i fynd ati i weithredu gyda’r un ysbryd.
Edrychwn ymlaen am eich ymateb i’r ddogfen a byddwn yn cysylltu’n fuan i’w thrafod ymhellach.
Bydd y ddogfen ar gael i’r cyhoedd yn ehangach o wythnos nesaf ymlaen, ar y wefan, o Siop Griffiths, Penygroes neu trwy e-bostio canolfanlleu@grwpcynefin.org O’r herwydd, gofynnwn i chi beidio ei rhannu gyda neb tan bydd hyn yn digwydd wythnos nesaf.
Yn gywir / Yours sincerely
Mair Edwards
Pennaeth Adfywio Cymunedol / Head of Community Regeneration
Grŵp Cynefin
© 2023 Cyngor Cymuned Llandwrog | Gwefan gan Delwedd