logo

Cyngor Cymuned Llandwrog

yn gwasanaethu pentrefi Y Fron, Carmel, Y Groeslon, Llandwrog a Dinas Dinlle
Rheolwr Gweinyddol a Chyllid y Cyngor - David Roberts
Bryn Meurig, Carmel, Caernarfon, Gwynedd LL54 7DS
Ffôn: (01286) 881920/ 07796024288
rheolwr@cyngorcymunedllandwrog.cymru
Facebook
Twitter

Rhybudd o fwriad gan Gyngor Gwynedd i wneud gorchymyn parcio newydd yn Ninas Dinlle


Gorchymyn Dinas Dinlle Cyngor Gwynedd (Mannau Parcio Oddi ar y Stryd) 2026 (y gorchymyn parcio)

Cyngor Gwynedd (y Cyngor) yw’r awdurdod sy’n gwneud y gorchymyn parcio, a’r bwriad wrth wneud y gorchymyn parcio yw rheoli parcio a chodi ffi parcio ar y llecynnau parcio dynodedig sy’n bodoli yn gyfochrog â’r brif briffordd yn Ninas Dinlle; ac maent wedi eu amlinellu’n goch ar fap y gorchymyn.

Y dosbarthiadau o gerbydau y gellir parcio ar y mannau parcio yw: ceir modur, beic modur, cerbyd ysgafn yn cario nwyddau, cerbyd trydan, beic modur trydan, a cherbydau dros nos, ond ni chaniateir aros dros nos.

Mi fydd y drefn codi ffi yn cydio i bob dosbarth o gerbyd a sonnir amdanynt uchod, a mae’r tabl isod yn dangos y ffioedd penodedig. Gall rhain newid ond yn gyntaf fe fydd rhaid rhoi rhybudd o newid.

Gorchymyn Dinas Dinlle Cyngor Gwyned (PDF) ...

Newyddion

© 2026 Cyngor Cymuned Llandwrog | Gwefan gan Delwedd

Datganiad Preifatrwydd