logo

Cyngor Cymuned Llandwrog

yn gwasanaethu pentrefi Y Fron, Carmel, Y Groeslon, Llandwrog a Dinas Dinlle
Rheolwr Gweinyddol a Chyllid y Cyngor - David Roberts
Bryn Meurig, Carmel, Caernarfon, Gwynedd LL54 7DS
Ffôn: (01286) 881920/ 07796024288
rheolwr@cyngorcymunedllandwrog.cymru
Facebook
Twitter

Rhoddion Cyngor Cymuned Llandwrog 2025-26


Mae Cyngor Cymuned Llandwrog wedi penderfynu yn ei gyfarfod ar 16 Chwefror i dalu’r rhoddion ariannol canlynol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2025/26, er mwyn cefnogi sefydliadau a gweithgareddau lleol sy’n cyfrannu’n gadarnhaol at fywyd cymunedol yr ardal:

Clwb Rygbi Caernarfon - £100
Y Ffair Nadolig Dinas Dinlle - £100
Menter Ty’n Llan Cyf - £800
Ambiwlans Awyr Cymru - £200
Canolfan y Fron - £1,500
Cwmni Drama'r Plant Anfradlon - £100
Cof y Cwmwd - £100
Neuadd Bentref Y Groeslon - £1,500

Lleu Dyffryn Nantlle - £400
Sioe Y Groeslon , Carmel, Fron a Llandwrog - £200
Pwyllgor Pentref Carmel - £400
Merched Y Wawr Y Groeslon - £150
Dawns i Bawb - £100
Seindorf Arian Frenhiniol Dyffryn Nantlle - £150
Clwb Gwawr Llandwrog - £100
Cymdeithas Lenyddol Brynrhos - £150

Eisteddfod Y Groeslon - £220
Cylch Meithrin Carmel - £500
Cylch Meithrin Y Groeslon - £500
Band Seindorf Llanrug - £100
Neuadd Pentref Carmel - £1,500
Cylch Meithrin Dinas a Llanwnda - £300
Ffrindiau Ysgol Llandwrog - £300

Mae’r Cyngor yn falch o allu cefnogi ystod eang o fentrau cymunedol, gan gynnwys gweithgareddau ieuenctid, digwyddiadau diwylliannol, elusennau lleol a chlybiau gwirfoddol. Nod y rhoddion yw cryfhau llesiant cymunedol a sicrhau cyfleoedd i drigolion o bob oed gymryd rhan mewn bywyd cymunedol bywiog a chynhwysol.

Dywedodd Cadeirydd  y Cyngor, Cynghorydd Gwyn Owen Jones

“Mae’n bwysig i ni fel Cyngor Cymuned gefnogi’r gwaith gwerthfawr sy’n cael ei wneud gan wirfoddolwyr a sefydliadau lleol. Trwy’r rhoddion hyn, rydym yn cydnabod eu cyfraniad sylweddol i’n cymuned.”

Newyddion

© 2026 Cyngor Cymuned Llandwrog | Gwefan gan Delwedd

Datganiad Preifatrwydd