Rydym yn ysgrifennu atoch â'r newyddion diweddaraf am ein gwaith i uwchraddio’r rhwydwaith trawsyrru trydan yng ngorllewin Gwynedd dros y blynyddoedd nesaf.
Yn gynharach eleni, penodwyd ein prif gontractwr Murphy Power Networks i ddylunio a darparu’r rhan o’n gwaith sy'n ymwneud â cheblau tanddaear, rhwng y Wern i’r gorllewin o Borthmadog a'r Garth i’r dwyrain.
Ar ôl cynnal arolygon amrywiol ar droed dros y misoedd diwethaf, mae angen i ni wneud gwaith archwilio manylach yn y ddaear (GI) yn cynnwys cloddio tyllau turio prawf er mwyn deall union gyflwr y tir yn well.
Bydd hyn yn ein galluogi i ystyried llwybrau a dyluniad ein ceblau yn ofalus, fel y gellir ystyried unrhyw effeithiau posibl a mesurau lliniaru yn fuan.
Fel rhan o'r archwiliadau, rydym hefyd yn gobeithio cynnal arolygon maes ar droed yn fuan, a fydd yn cynnwys asesiadau pridd gan ddefnyddio teclyn llaw i gymryd samplau pridd. Bydd asiantau tir penodedig National Grid, Fisher German, yn cysylltu â thirfeddianwyr unigol i drefnu’r arolygon hyn ar eu tir.
Yn ogystal ond ar wahân i hyn, rydym yn cysylltu â’r holl dirfeddianwyr ar hyd y llwybr rhwng y Wern a’r Garth i rannu ffin llinell goch – sef yr ardal ehangaf y mae'n debygol y bydd arnom ei hangen i wneud ein gwaith. Mae’n bwysig nodi'n glir na fydd arnom angen yr holl dir oddi mewn i'r ffin honno, o anghenraid.
Oddi mewn i'r ffin, mae'r coridor a gynigir ar gyfer llwybr y ceblau tanddaear. Defnyddiwyd nodweddion a chyfyngiadau y gwyddom amdanynt yn yr ardal, yn ogystal â gwybodaeth leol a gasglwyd a'r arolygon a wnaed hyd yma wrth benderfynu ar y coridor. Bydd y wybodaeth a gasglwn yn ein helpu i nodi ac ystyried llwybrau posibl ar gyfer ein ceblau tanddaear newydd a osodir yn lle’r ceblau presennol ac a fydd yn cynyddu'r capasiti.
Mae'r coridor a gynigir ar gyfer llwybr y ceblau yn nodi'r tiroedd y gall fod angen i ni eu defnyddio i osod ceblau newydd, datgomisiynu'r ceblau presennol, a gweithgareddau cysylltiedig fel llwybrau mynediad a mannau gweithio dros dro. Nid ydym yn bwriadu gosod ceblau ym mhob rhan o'r coridor a bydd yn cael ei fireinio a’i gulhau wrth i'r prosiect ddatblygu ac wrth i’n hastudiaethau yn y maes barhau.
Ar ôl i ni gasglu ymateb a chynnal rhagor o arolygon i gyfrannu at y dyluniad, byddwn yn nodi’r tir a’r hawliau angenrheidiol ar gyfer gosod, gweithredu a chynnal a chadw’r ceblau yn y tymor hir.Yna byddwn yn cysylltu eto â'r tirfeddianwyr yr effeithir arnynt gyda'r cynlluniau arfaethedig a manylion i'w trafod gyda nhw.
Ar yr un pryd, rydym wedi bod mewn trafodaethau manwl gyda rhanddeiliaid allweddol yn cynnwys Llywodraeth Cymru ac Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru (ACGCC) Traffig Cymru, Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri a Rheilffordd Ucheldir Cymru,ynglŷn â mannau croesi posibl. Rydym wedi bod yn trafod yn fanwl â chynrychiolwyr Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) hefyd i sicrhau eu bod hwythau'n cael y wybodaeth ddiweddaraf wrth i’r gwaith o fireinio'r llwybr fynd rhagddo.
Yn ogystal â’r gwaith ar gyfer newid y ceblau tanddaear, rydym wedi cynnal arolygon anymwthiol ar hyd gweddill y llwybr rhwng ein his-orsafoedd ym Mhentir a Thrawsfynydd, lle mae angen newid y ceblau uwchben. Rydym yn dal i drafod y gwaith hwn gyda'r bobl y mae ein llinell uwchben yn rhedeg dros eu tir.
Ar ôl y gwaith amgylcheddol a'r gwaith dylunio gofalus ar y ceblau tanddaear a'r llinell uwchben, cynhelir gweithgareddau caniatáu a rheoleiddio Byddwn hefyd yn ymgysylltu ac yn ymgynghori â rhanddeiliaid allweddol a’r cyhoedd.
Ar sail ein hamserlen bresennol, disgwyliwn y bydd y gwaith adeiladu'n dechrau rhwng canol a diwedd 2025.
Fel o'r blaen, mae’r gwaith hwn ar wahân i’n Prosiect Darpariaeth Effaith Weledol (VIP), sy’n golygu cael gwared â rhan o’r llinell uwchben mewn rhan o Barc Cenedlaethol Eryri sy'n weledol-sensitif a chladdu ceblau trydan mewn twnnel o dan y ddaear yn ei lle. Mae hefyd ar wahân i’n gwaith o newid ceblau tanddaear rhwng Gorsaf Bŵer Dinorwig a’n his-orsaf ym Mhentir. Rydym yn cydweithio’n agos ag eraill ar y ddau brosiect hyn er mwyn sicrhau bod ein gwaith yn gydgysylltiedig ac yn effeithlon.
Cewch ragor o wybodaeth yn https://www.nationalgrid.com/electricity-transmission/network-and-infrastructure/pentir-thrawsfynydd. Byddwn yn dal i ddiweddaru’r dudalen hon wrth i’n gwaith symud ymlaen.
Os hoffech wybod rhagor am ein gwaith ar hyn o bryd, cofiwch gysylltu â ni ar nationalgrid@pentir-traws.co.uk neu ffonio 0800 915 2485.
Fe wnawn ni sicrhau ein bod yn rhoi'r newyddion diweddaraf i chi wrth i'n gwaith symud ymlaen.
Yn gywir
Tom Hurford
Rheolwr y Prosiect
© 2023 Cyngor Cymuned Llandwrog | Gwefan gan Delwedd