logo

Cyngor Cymuned Llandwrog

yn gwasanaethu pentrefi Y Fron, Carmel, Y Groeslon, Llandwrog a Dinas Dinlle
Rheolwr Gweinyddol a Chyllid y Cyngor - David Roberts
Bryn Meurig, Carmel, Caernarfon, Gwynedd LL54 7DS
Ffôn: (01286) 881920/ 07796024288
gwybodaeth@cyngorcymunedllandwrog.cymru
Facebook
Twitter

Lwfansau i Aelodau (Taliadau)


1         Cyflwyniad -  

1.1      Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (Independent Remuneration Panel for Wales) , dan ofynion Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (fel y’i diwygiwyd), yn flynyddol,  sydd yn nodi taliadau gorfodol a dewisol i Gynghorau Cymuned. Mae copïau o adroddiadau blynyddol y Panel ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru              

Mae’r Panel Annibynnol Lwfansau Aelodau wedi ei wneud hi’n orfodol talu cyfraniad at gostau a threuliau aelodau Cynghorau Cymuned yng Ngrwpiau 1 i 5. Nid oes angen derbynebau ar gyfer y taliadau hyn. Mae Cyngor Cymuned Llandwrog mewn Grŵp 4 (Etholaeth 1,000 i 4,999) sydd yn golygu gellir ystyried y taliadau canlynol- 

  • Taliad costau ychwanegol - Gorfodol ar gyfer pob aelod  
  • Ad-daliad nwyddau traul - Gorfodol ar gyfer pob aelod
  • Uwch rôl : Dewisol : hyd at uchafswm o £500 i tri aelod (yn ychwanegol i lwfans costau a lwfans nwyddau)
  • Cadeirydd : Dewisol: hyd at uchafswm o £1,500 (yn ychwanegol i lwfans costau a lwfans nwyddau)
  • Is-gadeirydd : Dewisol: hyd at uchafswm o £500 (yn ychwanegol i lwfans costau a lwfans nwyddau)
  • Lwfans presenoldeb:  Dewisol hyd at uchafswm o £30 am pob cyfarfod
  • Colled ariannol: Dewisol
  • Teithio a chynhaliaeth: Dewisol  
  • Costau gofal neu gynhorthwy personol : Gorfodol 

Mae'n fater i bob Cyngor wneud a chofnodi penderfyniad polisi mewn perthynas â phryd a sut y gwneir y taliadau a ph’un a ydynt yn cael eu talu'n fisol, bob blwyddyn neu fel arall. Dylai'r polisi hefyd ddatgan a ddylid adennill unrhyw daliadau a wneir i aelod sy'n gadael neu newid ei rôl yn ystod y flwyddyn ariannol, a sut i adennill. 

1.2      Ad-daliad ar gyfer y costau ychwanegol o weithio gartref

Rhaid i’r Cyngor Cymuned dalu £156 y flwyddyn i’w haelodau (cyfystyr â £3 yr wythnos) tuag at dreuliau ychwanegol y bydd rhaid i’r aelwyd eu talu (gan gynnwys gwres, golau, ynni, a band eang) o ganlyniad i weithio gartref.  

1.3     Ad-daliad am nwyddau traul

Rhaid i gynghorau naill ai dalu £52 y flwyddyn i'w haelodau (cyfystyr â £1 yr wythnos) am gost nwyddau traul swyddfa sydd eu hangen i gyflawni eu rôl, neu fel arall rhaid i gynghorau alluogi aelodau i hawlio addaliad llawn am gost eu nwyddau traul swyddfa.

1.4     Cydymffurfio

Mae’n rhaid i’r Cyngor Cymuned gyhoeddi Datganiad o Daliadau hefyd erbyn 30 Medi bob blwyddyn. Mae’r ddogfen hon yn nodi’r holl daliadau i aelodau etholedig ym mlwyddyn flaenorol y Cyngor.  

2       Taliadau Cyngor Cymuned Llandwrog    

2.1     Lwfans Mandadol

Yn unol a canllawiau 2023/24 Panel Annibynnol Cydnabyddiaeth Cymru telir  £3 yr wythnos (£156 y flwyddyn) i pob aelod.

Mae’r taliad yn statudol.  

Gall aelod wrthod y taliad ond rhaid gwneud hynny yn ysgrifenedig at y Clerc.  

Gwneir y taliad i cyfrif banc yr aelod. Dim ond trwy trosglwyddiad banc y gwneir y taliad Bydd y taliad pob hanner blwyddyn mewn ôl-daliad – Medi a Mawrth

Os bydd aelod yn ymddiswyddo wedi derbyn y lwfans yna bydd y Cyngor yn adennill y taliad o’r 1af y mis nesaf i ddyddiad yr ymddiswyddiad 

2.2     Lwfans Ychwanegol- ad-daliad nwyddau traul  (yn weithredol 1/4/23)

Yn unol a canllawiau 2023/24 Panel Annibynnol Cydnabyddiaeth Cymru telir  £1 yr wythnos (£52 y flwyddyn) i pob aelod ar gyfer treuliau

Mae’r taliad yn statudol.  

Gall aelod wrthod y taliad ond rhaid gwneud hynny yn ysgrifenedig at y Clerc.  

Gwneir y taliad i cyfrif banc yr aelod. Dim ond trwy trosglwyddiad banc y gwneir y taliad Bydd y taliad yn digwydd pob 6 mis mewn ôl-daliad – Medi a Mawrth

Os bydd aelod yn ymddiswyddo wedi derbyn y lwfans yna bydd y Cyngor yn adennill y taliad o’r 1af y mis nesaf i ddyddiad yr ymddiswyddiad 

2.3     Uwch Rôl –            

Nid yw Cyngor Cymuned Llandwrog yn talu lwfans Uwch Rôl  

2.4    Lwfans i’r Cadeirydd            

Nid yw Cyngor Cymuned Llandwrog yn talu lwfans i’r Cadeirydd  

2.5     Lwfans i’r Is-gadeirydd            

Nid yw Cyngor Cymuned Llandwrog yn talu lwfans i’r Is-gadeirydd 

3         Cynllun  Talu Lwfans Presenoldeb  i Aelodau

3.1      Mae’r Panel Annibynol (IRPW) yn ei gwneud yn ofynnol, os bydd Cyngor yn penderfynu o blaid talu lwfansau presenoldeb, bod yn rhaid iddo lunio cynllun i’w fabwysiadu’n ffurfiol a gwneud darpariaeth iddo fod ar gael i’r cyhoedd a dylai’r cynllun nodi pa ddigwyddiadau y gwneir taliadau ar eu cyfer. Gan fod Adroddiad Blynyddol yr IRPW yn ymwneud â phob blwyddyn ariannol mae’n dilyn mae’r cynllun yn berthnasol i bob blwyddyn. Dyma'r cynllun felly ar gyfer 2023-24 i'w fabwysiadu'n ffurfiol er mwyn i'r Cyngor allu cyflawni gofynion yr IRPW.

3.2     Ers 1 Ebrill 2022 mae Cyngor Cymuned Llandwrog  yn talu lwfans presenoldeb o £10 i pob aelod ar gyfer mynychu pob cyfarfod o’r Cyngor, yn cynnwys cyfarfodydd o’r Cyngor llawn, pwyllgorau, gweithgorau a peneli.

3.3      Adolygir y ffi yn flynyddol (yn broses o sefydlu cyllideb y Cyngor yn flynyddol.) tra’n ystyried yr uchafswm y gellir ei dalu gan y Panel (IPRW) sydd ar hyn o bryd yn £30 am pob cyfarfod

3.4      Hyd: bydd y rhestr hon yn berthnasol am y cyfnod 1 Ebrill 2023 i 31 Mawrth 2024 neu hyd nes y caiff penderfyniadau eu diwygio fel arall ‘yn y flwyddyn’ gan yr IRPW.

3.5      Dyletswydd a Gymeradwyir: at ddiben y Lwfans Presenoldeb, mae dyletswydd a gymeradwyir yn golygu pob cyfarfod ffurfiol o'r Cyngor neu Bwyllgorau neu Gweithgorau neu Paneli ar gyfer yr aelodau hynny o'r cyngor neu bwyllgor neu gweithgorau neu paneli a wysir yn briodol i fynychu neu na chânt eu galw'n briodol i fynychu (hynny yw gweithgorau a phaneli).

3.6      Cyfarfodydd a Ohiriwyd ac a Ailgynullwyd: bydd presenoldeb mewn sesiwn o gyfarfod a ohiriwyd yn cael ei hailgynnull yn cyfrif fel sesiwn presenoldeb ychwanegol.

3.7      Cyfarfodydd olynol: bydd presenoldeb mewn cyfarfodydd sy’n rhedeg yn olynol neu sy’n cael eu gwahanu gan lai na 60 munud yn cyfrif fel un presenoldeb.

3.8      Cyfarfodydd Heb Gworwm: er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, os nad oes cworwm mewn cyfarfod, bydd yr Aelodau sy'n cael eu galw a'u mynychu yn derbyn y lwfans presenoldeb.

3.9      Hyd Presenoldeb: rhaid i bresenoldeb fod am y rhan fwyaf o hyd y cyfarfod (wedi'i fesur yn ôl amser, ac i gynnwys cyfnodau ar gyfer datgan buddiannau neu seibiannau cysur neu ataliad dros dro).

3.10   Presenoldeb Personol neu o Bell: bydd presenoldeb boed yn bersonol neu o bell yn cael ei drin yn gyfartal.

3.11    Trefniadau Talu: bydd trefniadau talu’n cael eu gwneud gan Swyddog Cyllid Cyfrifol Y Cyngor a bydd Aelodau’n darparu’r cyfryw fanylion ag sy’n ofynnol er mwyn prosesu taliadau, ac fel arfer yn cael eu gwneud bob hanner blwyddyn mewn ôl-daliadau.

3.12    Gall aelod wrthod y taliad ond rhaid gwneud hynny yn ysgrifenedig at y Clerc.  

3.13    Gwneir y taliad i cyfrif banc yr aelod. Dim ond trwy trosglwyddiad banc y gwneir y taliad 

4        Teithio a Chynhaliaeth  

4.1     Bydd y Cyngor yn ad-dalu costau teithio o 45c y filltir ar gyfer pob aelod yn fydd yn ymgymryd a dyletswyddau swyddogol ar ran y Cyngor. Rhaid i daliadau o’r fath fod yn gostau gwirioneddol teithio ar gludiant cyhoeddus neu lwfansau milltiroedd Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi fel y nodir isod sydd yn 45c y filltir (Ebrill 2023).  

5         Costau gofal neu gynhorthwy personol

 5.1      Rhaid i bob cyngor tref a chymuned ddarparu ar gyfer y cyfraniad tuag at gostau gofal a chymorth personol ar gyfer dibynnydd o dan 16 mlwydd oed, neu berson ifanc neu oedolyn sydd fel arfer yn byw gyda’r aelod fel rhan o’i deulu ac na ellir ei adael heb oruchwyliaeth (a roddir gan ofalwyr anffurfiol neu ffurfiol). Diben hyn yw galluogi pobl sydd ag anghenion cymorth personol neu gyfrifoldebau gofalu i gyflawni eu dyletswyddau’n effeithiol fel aelod o awdurdod. Dim ond ar ôl dangos derbynebau gan y darparwr gofal y bydd taliadau’n cael eu gwneud.            

Dylai aelodau, gan gynnwys aelodau cyfetholedig, gael yr hawl i ad-daliad o’u costau gofal, ar gyfer gweithgareddau y mae’r Cyngor unigol wedi’u dynodi’n fusnes swyddogol neu’n ddyletswydd gymeradwy a allai gynnwys amser priodol a rhesymol ar gyfer paratoi a theithio. Mater i’r awdurdodau unigol yw penderfynu ar drefniadau penodol i roi hyn ar waith; rhaid i bob awdurdod sicrhau bod unrhyw daliadau a wneir â chysylltiad priodol â busnes swyddogol neu ddyletswydd gymeradwy            

Bydd y Cyngor yn ystyried pob cais fel  y daw gerbron    

 

Mabwysiadwyd gan y Cyngor Llawn    19 Mehefin 2023  

Cyfeirnod  y cofnod       23-06-13 

Polisi Talu Lwfansau Mandadol a Cynllun Talu Lwfans Presenoldeb i Aelodau o Gyngor Cymuned Llandwrog  (PDF)

Newyddion

© 2023 Cyngor Cymuned Llandwrog | Gwefan gan Delwedd

Datganiad Preifatrwydd