logo

Cyngor Cymuned Llandwrog

yn gwasanaethu pentrefi Y Fron, Carmel, Y Groeslon, Llandwrog a Dinas Dinlle
Rheolwr Gweinyddol a Chyllid y Cyngor - David Roberts
Bryn Meurig, Carmel, Caernarfon, Gwynedd LL54 7DS
Ffôn: (01286) 881920/ 07796024288
gwybodaeth@cyngorcymunedllandwrog.cymru
Facebook
Twitter

Etholiadau Lleol Mai 2022 - Fideos codi ymwybyddiaeth / hyrwyddo – Cynghorwyr Cymuned a Thref


Mae Un Llais Cymru - gyda chymorth Llywodraeth Cymru - wedi cyhoeddi fideo i hyrwyddo ac annog unigolion i gyflwyno eu henwau yn ymgeisyddion ar gyfer etholiadau cynghorau cymuned a thref a gynhelir ym mis Mai 2022. Mae’r fideo sydd ar gael  yn y Gymraeg a’r Saesneg yma:

Cymraeg  Hafan - One Voice Wales - Welsh (unllaiscymru.org.uk)

Mae’r fideo yn:

  • Codi ymwybyddiaeth o rôl a chyfraniad cynghorwyr cymuned a thref i gymdeithas
  • Nodi sut mae cynghorwyr cymuned a thref mewn sefyllfa dda i wybod beth yw blaenoriaethau ac anghenion eu hardal leol a sut all cynghorau gydweithio gyda phartneriaid lleol i greu newid cadarnhaol
  • Nodi pwysigrwydd amrywiaeth mewn llywodraeth leol
  • Tynnu sylw at yr heriau y mae cynghorwyr yn eu hwynebu a’r gefnogaeth sydd ar gael iddynt e.e. trwy raglenni hyfforddiant a drefnir gan Un Llais Cymru
  • Amlinellu’r sgiliau, gwybodaeth a phrofiad y maent wedi’u meithrin trwy eu rôl a sut ellir eu defnyddio mewn agweddau eraill ar fywyd a gwaith, gorfod cyfarwyddo a deall nifer o faterion anghyfarwydd a chael gwell dealltwriaeth o sut mae democratiaeth leol yn gweithio
  • Cyfleu bod gan bawb sgiliau y gallent eu cynnig i rôl Cynghorydd o’u bywyd bob dydd e.e. trefnu, cyfathrebu, datrys problemau ac ati

 

Newyddion

© 2023 Cyngor Cymuned Llandwrog | Gwefan gan Delwedd

Datganiad Preifatrwydd