EISTEDDFOD LLŶN AC EIFIONYDD 2023.
Sefydlwyd Pwyllgor Apêl Llandwrog, Y Groeslon, Carmel a’r Fron ar gyfer llywio ymgyrch i godi arian at gostau’r Eisteddfod yn 2023. Gyda targed o £5,000 a £3,000 eisoes wedi ei sicrhau, mae’r Pwyllgor wedi mynd ati i hel syniadau am amrywiol weithgareddau cymunedol i gyflawni’r ymgyrch a chodi’r £2,000 sydd yn weddill. Cynhelir cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor Apêl am 7.30 o’r gloch ar 27 Ebrill yn Neuadd Bentref Y Groeslon. Gofynnir i unrhyw un sydd a syniadau am godi arian neu yn awyddus i gynorthwyo’r ymgyrch i ymuno â’r cyfarfod a bydd croeso cynnes i chwi yno.
© 2022 Cyngor Cymuned Llandwrog | Gwefan gan Delwedd