Yn ystod yr wythnosau nesaf fe fydd Cyngor Cymuned Llandwrog yn rhyddhau cyfres o gylchdeithiau cerdded sy'n cysylltu rhai o lwybrau cyhoeddus fwyaf diddorol yr ardal.
Mae’r daith gyntaf yn un 3.24milltir, tir cymysg yn cychwyn a gorffen yn maes parcio neuadd y Groeslon. . Mae’r gylchdaith yn un cymharol hawdd ond yn anaddas ar gyfer pramiau a gadeiriau olwyn.
Os hoffech chi fynd i grwydro'r llwybr yma dilynnwch y link isod i lawrlwytho map OS.
Neu i ddysgu am fwy , porrwch drwy’r catalog llwybrau yma https://cyngorcymunedllandwrog.cymru/llwybrau-cyhoeddus
Rheolau syml i'w dilyn wrth dramwyo llwybrau
Mae'r llwybrau hyn yn adnoddau hollbwysig i'r gymuned, ac mae angen eu gwarchod nhw.
Gall wneud hyn drwy ddefnyddio gwefan Cyngor Gwynedd I dynnu sylw at broblemmau yma.
neu hysbysu un o aelodau o'r Cyngor cymuned, neu'r aelod cyngor sir.
Os oes gennych chi gylchdaith diddorol o lwybrau'r ardal hoffech chi ri rannu, gyrrwch nhw draw i'r Cyngor drwy ein cyfrif facebook.
Ewch i grwydro a diolch.
Cyng. Sion Hywyn Griffiths
© 2023 Cyngor Cymuned Llandwrog | Gwefan gan Delwedd