Update frrom Sian Gwenllian AS - 18/2/22 (Welsh only)
Roeddwn i eisiau rhoi diweddariad sydyn ichi am ddatblygiadau diweddar gyda chynllun Arbed.
Mae rhai pobl wedi cysylltu â mi gyda diweddariadau ar eu hawliadau yn erbyn contractwyr a/neu warantwyr, ac felly cysylltwch â mi os oes angen cymorth arnoch i gael ymatebion gan y cwmnïau hyn.
Gwn fod llond llaw o bobl yn y sefyllfa anffodus lle na allant hawlio yn erbyn y contractwr na’r gwarantwr, gan fod y ddau gwmni wedi mynd i’r wal. Rwyf eisioes wedi codi’r achosion penodol hyn gyda’r Gweinidog, Julie James AS.
Efallai eich bod wedi gweld sylw yn y cyfryngau am gyllid Llywodraeth Cymru yn cael ei ddarparu i Gyngor Pen-y-bont ar Ogwr i unioni problemau ag inswleiddio mewn cartrefi yng Nghaerau. Ar ôl gwneud ymholiadau gyda’r Gweinidog, daeth i’r amlwg nad gwaith a wnaed o dan gynllun Arbed oedd hwn ond o dan rhaglen gan Lywodraeth y DU o’r enw CESP. Atodaf ymateb y Gweinidog ar y mater hwn er gwybodaeth ichi.
Gan ei bod yn datgan bod cyllid wedi’i ddarparu oherwydd nad oedd unrhyw fesurau diogelu defnyddwyr na gwarantau ar gyfer y gwaith a wnaed yng Nghaerau, af yn ôl ati i ofyn a oes modd darparu unrhyw gyllid i berchnogion tai yn Arfon sydd ddim yn gallu hawlio o dan y warant a ddarparwyd iddynt gan fod y gwarantwr wedi mynd i'r wal. Os ydych chi yn y sefyllfa hon ac nad ydych wedi cysylltu â mi ynglŷn â’ch achos eto, cysylltwch â mi cyn gynted â phosibl.
Rwy’n dal yn awyddus i glywed am unrhyw achosion newydd ac am gynnydd gyda hawliadau yn erbyn contractwyr a gwarantwyr, felly anfonwch ebost ataf neu ffoniwch fy swyddfa gydag unrhyw ddiweddariadau.
Yn gywir
Siân Gwenllian
Aelod o'r Senedd dros Arfon / Member of the Senedd for Arfon
01286 672076
8 Stryd y Castell, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1SE
llythyr gan Julie James AS Gweinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru 16/2/22.pdf
© 2024 Cyngor Cymuned Llandwrog | Gwefan gan Delwedd